Gofalwyr maeth Sir Gaerfyrddin yn rhannu pwysigrwydd cymorth lleol
7 awr yn ôl

Mae pâr a drosglwyddodd i faethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr yn 2016 yn edrych yn ôl ar eu siwrnai, un sydd wedi ymestyn dros ddau ddegawd ac wedi trawsnewid bywydau llawer o blant a phobl ifanc.
Dechreuodd eu siwrnai faethu yn 2004 pan wnaeth perthynas, a oedd eisoes yn ofalwr maeth, eu hannog i ystyried maethu. Ar ôl dysgu am y broses a'r hyn oedd yn ei olygu, penderfynon nhw fynd amdani, a dydyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
I ddechrau, gwnaethon nhw faethu gydag Asiantaeth Maethu Annibynnol, a hynny am 12 mlynedd. Roedd eu ffocws ar faethu hirdymor, gan ddarparu cartref parhaol, sefydlog i blant a phobl ifanc nad oedden nhw'n gallu byw gyda'u teuluoedd geni.
Yn 2016, gwnaethon nhw'r penderfyniad i drosglwyddo i faethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr. Un o'r ffactorau allweddol yn eu penderfyniad oedd y gefnogaeth ychwanegol a'r buddion a ddarparwyd, sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w profiad maethu. Yn bwysicaf oll, roedden nhw'n gallu trosglwyddo gyda'u lleoliadau presennol, gan sicrhau parhad a sefydlogrwydd i'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal.
Roedd y broses drosglwyddo yn syml iawn. Roedd pawb yn gyfeillgar a chroesawgar.”
Cadarnhaodd eu hargraffiadau cychwynnol o faethu gyda'r Awdurdod Lleol eu bod wedi gwneud y dewis cywir.
Ein hargraffiadau cyntaf o'r Awdurdod Lleol oedd bod llawer mwy o gefnogaeth a chymorth ariannol. Yn sydyn, roedd gennym gyllid ychwanegol ar gyfer gwyliau, penblwyddi, a'r Nadolig, a oedd o gymorth mawr.”
Ers trosglwyddo, maen nhw wedi parhau i dderbyn cefnogaeth amhrisiadwy, yn emosiynol ac yn ymarferol, gan ein tîm maethu. Mae hyfforddiant a goruchwyliaeth rheolaidd hefyd wedi chwarae rhan hanfodol yn eu datblygiad fel gofalwyr maeth.
Mae ein gweithwyr cymdeithasol a'r holl dimau rydyn ni'n gweithio gyda nhw mor barod i helpu. Pryd bynnag mae angen rhywun arna i, mae bob amser help a chefnogaeth ar gael.
Rydyn ni'n cael hyfforddiant a goruchwyliaeth rheolaidd. Mae'r hyfforddiant yn werthfawr iawn, ac maen nhw'n defnyddio hyfforddwyr rhagorol."
Mae eu profiad gyda Maethu Cymru Sir Gâr wedi golygu eu bod yn teimlo'n rhan o rwydwaith cryf a chefnogol.
Byddwn yn argymell yr Awdurdod Lleol yn gryf oherwydd lefel y gefnogaeth. Rydyn ni'n un teulu proffesiynol mawr o amgylch y plant.”
I'r pâr maethu ymroddedig hyn, un o eiliadau mwyaf gwerth chweil eu siwrnai oedd dod yn fam-gu a thad-cu maeth.
Fe wnaethon ni ddod yn fam-gu a thad-cu maeth i'n lleoliad cyntaf erioed, nôl yn 2004. Er gwaethaf cymaint o heriau, mae hi wedi bod yn llwyddiannus iawn mewn bywyd ac mae'n fam wych ac yn bartner arbennig i'w chariad.”
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Mae gofalwyr maeth yn chwarae rôl anhygoel wrth newid bywydau plant a phobl ifanc mewn gofal maeth, ac mae mor bwysig eu bod yn derbyn y gefnogaeth gywir i barhau i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni yma i arwain gofalwyr maeth trwy bob cam o'r broses, gan sicrhau parhad iddyn nhw a'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal.”
Os ydych chi eisoes yn maethu, yna rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad pwysig i agor eich calon a'ch cartref. I gael gwybod mwy am faethu yn Sir Gaerfyrddin, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.