Ethol Carmelo Colasanto yn is-etholiad ward Llangennech
25 diwrnod yn ôl
Mae Carmelo Colasanto wedi cael ei ethol fel Cynghorydd newydd ward Llangennech ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.
Cynhaliwyd is-etholiad ddydd Iau, 7 Awst 2025, yn dilyn marwolaeth y cyn-Gynghorydd Gary Jones.
Dyma ganlyniadau'r is-etholiad:
Carmelo Colasanto - Reform UK – 694
Richard Talog Jones – Plaid Cymru - 489
Jordan Sargent – Llafur Cymru – 380
Justin Griffiths – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – 26
Edward Evans - Ceidwadwyr Cymreig – 14
Wayne Erasmus - Gwlad - 6
Roedd y ganran a bleidleisiodd yn 39.37%.