Ein trefi gwledig: Hendy-gwyn ar Daf

3 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref gan Gyngor Sir Gâr, mae trefi marchnad gwledig ar draws y sir wedi cael cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Hendy-gwyn ar Daf, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Gâr a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Hendy-gwyn ar Daf yn dref wledig rhwng Caerfyrddin a Hwlffordd sydd â chysylltiadau da, sy'n adnabyddus am ei marchnad da byw brysur a'i chymysgedd o fusnesau lleol, gan gynnwys amaethyddiaeth, twristiaeth a diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn cefnogi microfusnesau a gwasanaethau lleol hanfodol ac yn ganolbwynt ar gyfer addysg a thrafnidiaeth. Mae'r dref yn fan cychwyn delfrydol i archwilio tirweddau hardd a hanes cyfoethog y rhanbarth. I ddysgu rhagor am Hendy-gwyn ar Daf fel cyrchfan, ewch i Darganfod Sir Gâr.

Un o ddatblygiadau amlwg y Rhaglen Deg Tref yn Hendy-gwyn ar Daf yw'r gwaith llwyddiannus o ailddatblygu hen adeilad y Studio ar Cross Street. Mae'r cyfleuster wedi'i ailwampio ac mae bellach yn gartref i'r Cash Hub ac ystafell driniaeth, gan ddod â gwasanaethau newydd a budd i'r gymuned i ganol y dref. Mae'r Cash Hub yn meddiannu'r rhan fwyaf o'r adeilad, gan ddarparu gwasanaethau bancio hanfodol, ac mae ystafell driniaeth yng nghefn yr adeilad sydd ar brydles i Molly's Beauty, busnes harddwch lleol.

Bydd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf yn lansio ei Cash Hub newydd yn swyddogol ddydd Gwener, 11 Gorffennaf 2025, rhwng 10:30AM a 11:30AM, ar safle'r Cash Hub. Bydd Ann Davies AS a'r Cynghorydd Carys Jones yn bresennol yn y lansiad. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, ac mae'r gymuned yn cael ei gwahodd i ddod i'r lansiad a dysgu rhagor am y gwasanaethau sy'n cael eu cynnig yn y Cash Hub.

Trwy Brosiect Refeniw y Deg Tref, roedd Cyngor Tref Hendy-gwyn ar Daf hefyd wedi penodi Swyddog Digwyddiadau a Marchnata i roi hwb i galendr digwyddiadau'r dref a nifer yr ymwelwyr. Mae amrywiaeth o weithgareddau poblogaidd wedi digwydd ers hynny, gan gynnwys dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, sesiynau crefft, prosiectau celf cymunedol fel paentio cysgodfan fysiau Bryn Gwenllian gyda phlant ysgol lleol, glanhau'r orsaf, a gorymdaith cynnau goleuadau coeden Nadolig.

Roedd Gŵyl Bwyd Stryd Hendy-gwyn ar Daf, a gafodd ei chynnal ym mis Mai, wedi denu dros 1,700 o bobl yn 2024 er gwaethaf tywydd gwlyb. Roedd y digwyddiad yn cynnwys dros 80 o fusnesau a gwerthwyr bwyd lleol, ochr yn ochr â rhaglen o berfformiadau gan gerddorion lleol a grwpiau ysgol. Cafodd yr ŵyl ei chynnal yn 2025 fel digwyddiad blynyddol, ac roedd nifer y bobl oedd yn bresennol yn dal i fod yn dda y flwyddyn honno gan gyfrannu at fwy o welededd i'r dref.

Fel rhan o'r ymdrechion i wella golwg a theimlad canol y dref, cafodd busnesau lleol eu gwahodd i wneud cais am Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig i wella blaen siopau ac adeiladau allanol. Mae sawl adeilad ar y stryd fawr eisoes wedi elwa ar y gronfa hon, gan greu amgylchedd mwy bywiog a deniadol i drigolion ac ymwelwyr.

Gan ychwanegu at hunaniaeth unigryw'r dref, cafodd murlun newydd ei gomisiynu yng Nghlwb Criced Hendy-gwyn ar Daf, a gafodd ei greu gan JenksArt, sef artist lleol. Mae'r darn trawiadol yn dathlu diwylliant lleol ac yn cyfrannu at awyrgylch creadigol y dref.

O dan y Gronfa Mynd i'r Afael â Threfi, mae Cyngor Sir Gâr wedi datblygu maes parcio newydd ar safle'r hen seidins rheilffordd, gan helpu i roi mynediad haws i ganol y dref ac amwynderau lleol. Mae'r prosiect wedi darparu 25 o leoedd parcio am ddim, gan fod o fudd i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yn ogystal, trefnodd y Cyngor fod gwaith glanhau trylwyr yn cael ei wneud gan arbenigwyr ar Stryd Sant Ioan, gan wella glendid ac apêl canol y dref ymhellach.

Bydd Wythnos Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei chynnal o ddydd Gwener, 25 Gorffennaf tan ddydd Sul, 3 Awst 2025, gan gynnig rhaglen lawn o ddigwyddiadau lleol a drefnir gan y gymuned. Mae'r gweithgareddau sydd wedi'u trefnu trwy gydol yr wythnos yn cynnwys twrnamaint golff, rasys whilber, chwaraeon i blant, taith feicio, sioe gŵn, a gemau bowlio. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys nosweithiau thematig fel noson stêc, noson gyrri, a noson pizza, ynghyd â boreau coffi, barbeciw a cherddoriaeth fyw. Un o uchafbwyntiau'r wythnos fydd y Carnifal ddydd Sadwrn, 2 Awst, sy'n cynnwys gorymdaith yn y dref, adloniant byw, a chystadlaethau amrywiol. Bydd y digwyddiad yn dod i ben ddydd Sul, 3 Awst gyda gwasanaeth yn yr eglwys a chwis i'r gymuned.

Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau.  

Bydd Hwb Bach y Wlad yn Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf ar 28 Gorffennaf rhwng 10am a 2pm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/hwb-bach-y-wlad/      

Bydd y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes nesaf yn mynd i Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf ddydd Mercher, 23 Gorffennaf rhwng 10am a 3pm, gan roi cyfle i fusnesau a grwpiau cymunedol gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir. Bydd cyngor ar gael ar bob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; gan gynnwys trwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau, yn ogystal â chymorth marchnata.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Mae trawsnewid go iawn yn digwydd yn Hendy-gwyn ar Daf ac mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi drwy'r Rhaglen Deg Dref a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Mae'r gwaith adfywio hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad fel Cyngor Sir i sbarduno twf economaidd cynhwysol, gan gefnogi ein sector twristiaeth, galluogi busnesau lleol i ffynnu, a darparu manteision go iawn, parhaol i'r gymuned."

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 10 Tref, ewch i'r wefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/deg-tref/hendy-gwyn-ar-daf/