Dweud eich dweud am yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Fwyd Sir Gaerfyrddin
9 diwrnod yn ôl

Fel Partner i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin, mae Cyngor Sir Caerfyrddin am i breswylwyr, sefydliadau cymunedol, busnesau lleol a rhanddeiliaid eraill ddweud eu dweud ar ddyfodol bwyd yn Sir Gaerfyrddin drwy gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad ynghylch y Strategaeth Fwyd.
Mae'r arolwg, sy'n cau ar 10 Medi 2025, yn gofyn am farn ar Strategaeth Fwyd Leol y sir, sydd â'r nod o greu system fwyd sy'n cynhyrchu, yn hyrwyddo ac yn darparu mynediad i fwyd iach a chynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol drwy ganolbwyntio ar dair amcan allweddol:
- Gwella'r amgylchedd bwyd mewn cartrefi, mewn lleoliadau cyhoeddus ac mewn lleoliadau cymunedol
- Gwella bwyd y sector cyhoeddus trwy gaffael cynaliadwy ac addysg
- Cefnogi'r economi fwyd leol gyda ffermio cynaliadwy, gyrfaoedd a bywoliaethau
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Rhannwch eich barn chi am y Strategaeth Fwyd Leol a helpwch i lunio Strategaeth Fwyd Leol sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau lleol yn ogystal â chyflawni newid ystyrlon ar draws meysydd allweddol fel mynediad at fwyd, maeth, cadwyni cyflenwi lleol, gwastraff bwyd ac effaith ar yr hinsawdd."
Ein cenhadaeth yw sicrhau bod gan bawb yn Sir Gaerfyrddin fynediad at fwyd lleol, iach a chynaliadwy, gydag ysgolion, timau arlwyo a gwasanaethau darpariaeth yn gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo a chyflawni hyn”.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin:
Mae'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi treulio dros ddwy flynedd yn datblygu'r Strategaeth Fwyd Leol hon, wedi'i siapio gan fewnbwn gan randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Ar adeg o heriau cynyddol o ran yr economi, yr amgylchedd ac iechyd yn Sir Gaerfyrddin, mae'r strategaeth hon yn cynnig gweledigaeth gyffredin i ddod â phobl, busnesau a sefydliadau at ei gilydd.
Gydag uchelgais a ffocws, rydyn ni'n anelu at gyflawni camau wedi'u targedu a fydd o fudd i gymunedau ledled y sir.”
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin