Diddordeb na welwyd ei debyg o'r blaen yng nghynllun prentisiaethau'r Cyngor

8 diwrnod yn ôl

Mae nifer digynsail o bobl wedi mynegi diddordeb ym mhrentisiaethau Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystod ei ymgyrch recriwtio ddiweddar, gyda 341 o geisiadau wedi dod i law ar gyfer 20 o swyddi gwag.

Roedd y cynllun yn cynnwys swyddi mewn amrywiaeth eang o adrannau'r Cyngor gan gynnwys Adnoddau Dynol, Fflyd (gweithdy), Cyllid, Llyfrgelloedd, Polisi, Cymorth Data Llifogydd ac Arfordirol, Cyfieithu, Arlwyo a Chymorth Busnes a mwy.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael eu cefnogi ar eu taith i ddysgu Cymraeg, gyda phob un o'r swyddi'n gofyn i ymgeiswyr ddefnyddio Cymraeg llafar neu fod yn barod i ddysgu yn ystod eu prentisiaeth, gyda chymorth wedi'i dargedu. Bydd rolau penodol yn gweithio ym maes Dysgu Digidol, Polisi a Chyfieithu yn rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg ddechrau eu gyrfa gan ddefnyddio eu sgiliau uwch o ran y Gymraeg yn ddyddiol.

Mae Rhaglen Brentisiaethau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i datblygu i gynnig cyfleoedd cynhwysfawr o ran hyfforddiant, mentora a datblygu gyrfa wrth weithio. Ei nod yw rhoi'r profiad a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar bobl i ragori yn eu meysydd dewisol a chyfrannu'n gadarnhaol at eu tîm, y Cyngor a'r gymuned ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu: 

Mae'r diddordeb mawr sydd wedi bod gan bobl yn ein cynllun prentisiaeth yn dangos yr awydd yma yn Sir Gaerfyrddin i bobl ifanc gychwyn ar yrfa gyda sefydliad sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen.

“Mae'r swyddi hyn hefyd yn dangos ymrwymiad y Cyngor i feithrin amgylchedd dwyieithog lle mae'r Gymraeg nid yn unig yn cael ei diogelu ond ei dathlu ac edrychaf ymlaen at weld yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ffynnu yn eu rolau.”

Mae'r prentisiaethau'n cyd-fynd â Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin ac yn tynnu sylw at ei ymrwymiad i ddatblygu trigolion y sir, gan roi pwyslais clir ar greu cymuned sy'n ffynnu, yn gynhwysol ac yn llewyrchus. Mae'r cynllun hefyd yn amlinellu uchelgais y Cyngor i feithrin amgylchedd meithringar lle gall pobl gael mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth sy'n eu galluogi i wireddu eu potensial llawn.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwaith yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, ewch i wefan y Cyngor.