Dathliad Canmlwyddiant Record Cyflymder ar Dir y "Blue Bird" yn yr Amgueddfa Cyflymder
6 diwrnod yn ôl

Bydd Amgueddfa Cyflymder Cyngor Sir Caerfyrddin ym Mhentywyn yn croesawu Sunbeam 350hp Blue Bird, y car eiconig, i ddathlu can mlynedd ers iddo dorri record cyflymder y byd ar dir yn 1925, sef 150.76mya.
Bydd yn cael ei arddangos y tu allan i'r amgueddfa am un diwrnod yn unig rhwng 10am a 5pm ar 21 Gorffennaf gan roi cyfle perffaith i'r rhai sy'n ymweld â Phentywyn dynnu llun drwy gydol y dydd.
Bydd y cerbyd hefyd yn ymddangos ar draeth Pentywyn i roi cyfle i dynnu llun yn ystod y dydd i ddathlu'r canmlwyddiant, gan gynnwys sŵn gwych yr injan V12.
Y car hwn, a gafodd ei enwi'n 'Blue Bird' gan ei yrrwr Syr Malcolm Campbell MBE, oedd y cyntaf i fynd yn gyflymach na 150 mya (240 km/h). Cafodd record cyflymder y byd ar dir o 150.766 mya (242.628 km/h) ei gosod ar draeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin, Cymru ar 21 Gorffennaf 1925. Erbyn hyn mae Blue Bird yn rhan o'r casgliad cerbydau yn yr Amgueddfa Foduron Genedlaethol yn Beaulieu.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Rydyn ni'n falch iawn o weld y 'Blue Bird' ysblennydd yn ôl ym Mhentywyn a hynny ar ôl iddo ymweld yn flaenorol yn 2015. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i'r rhai sy'n dwlu ar foduron a'r rhai sydd â diddordeb cyffredinol weld y cerbyd eiconig â'u llygaid eu hunain."
Dywedodd Jon Murden, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth yr Amgueddfa Foduron Genedlaethol: “Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at nodi carreg filltir mor bwysig o ran record cyflymder y byd ar dir drwy hyn a digwyddiadau eraill eleni, a fydd yn dathlu ei phwysigrwydd yn hanes moduro ac yn rhoi mwy o gyfleoedd i weld Blue Bird.”
Ar gyfer dathliad 2025 mae adran benodol ar wefan yr Amgueddfa Foduron Genedlaethol am hanes y Sunbeam 350hp.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn, ewch i'r wefan.