Cynnal digwyddiad ymgysylltu cychwynnol i ddiogelu Marchnad Llanelli at y dyfodol

6 diwrnod yn ôl

Nos Fawrth, 22 Gorffennaf 2025, cynhaliodd Cyngor Sir Caerfyrddin gyfarfod ymgysylltu cychwynnol gyda masnachwyr Marchnad Llanelli i drafod opsiynau posibl i ddiogelu dyfodol y farchnad boblogaidd a phrysur hon ar gyfer y cenedlaethau nesaf.
Mae safle presennol y farchnad, sydd o dan faes parcio aml-lawr, yn ddiogel ac yn cael ei fonitro'n rheolaidd gan beirianwyr. Fodd bynnag, mae'r adeilad yn agosáu at ddiwedd ei oes o ran ei strwythur ac mae'r Cyngor Sir, gan ddisgwyl hyn, yn dechrau trafodaethau â masnachwyr a rhanddeiliaid ymlaen llaw i ddiogelu dyfodol hirdymor Marchnad Llanelli. 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Lanelli farchnad ffyniannus am y degawdau i ddod, wrth iddo weithio gyda phartneriaid i adfywio canol tref Llanelli. Felly, yr opsiynau posibl a gafodd eu trafod gyda'r masnachwyr oedd:

  • Symud dros dro i ddarpariaeth awyr agored neu ddarpariaeth arall, cyn symud i gartref newydd ar safle presennol y farchnad
  • Symud i Dde Stryd y Farchnad 
  • Symud y farchnad i hen adeilad Woolworths, 8-12 Stryd Vaughan
  • Opsiwn hybrid, sef symud y farchnad i 8-12 Stryd Vaughan a symud rhai masnachwyr i safleoedd manwerthu gwag yng nghanol y dref.

Ar ôl prynu hen adeilad Woolworths, 8-12 Stryd Vaughan, yn 2018, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi sicrhau cyllid drwy Gynllun Ffyniant Bro Llywodraeth y DU sy'n amodol ar ddefnyddio 3664m2 o le masnachol unwaith eto yng nghanol tref Llanelli erbyn gwanwyn 2028. Yn dilyn ymdrechion cychwynnol i ailddatblygu'r safle, mae cyfle ar gael i osod Marchnad Llanelli ar y safle.

Rhaid i gais am gyllid o Gynllun Ffyniant Bro Llywodraeth y DU gael ei gyflwyno a'i wario ar brosiectau adfywio economaidd. 

Gan gofio hyn, rydyn ni wedi gofyn i fasnachwyr ystyried ai'r opsiwn i symud i 8-12 Stryd Vaughan yw'r unig opsiwn posibl er mwyn defnyddio'r cyllid a chyflawni'r gwaith o fewn yr amserlenni arfaethedig.


Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: 

Rydyn ni'n ddiolchgar bod y masnachwyr yn cymryd yr amser i drafod gyda ni a rhoi adborth i ni am yr opsiynau cychwynnol i sicrhau dyfodol Marchnad Llanelli. 
Ar hyn o bryd mae cyllid ar gael i ni gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i ailddatblygu 8-12 Stryd Vaughan, gan olygu ei fod yn opsiwn realistig fyddai'n gallu cael ei gyflawni. 
Rydyn ni'n wynebu amserlenni tynn i sicrhau'r arian ar gyfer y prosiect hwn a sicrhau bod yr opsiwn hwn yn parhau i gael ei ystyried i ddarparu marchnad newydd yng nghanol tref Llanelli. Byddai angen i ni gyflwyno cais cyn-gynllunio i greu marchnad newydd yn 8-12 Stryd Vaughan yn yr wythnosau nesaf. 
Oherwydd y cyfyngiadau amser, mae'n well cyflwyno'r cais cyn-gynllunio yn ystod yr amserlen hon, gyda'r dewis o dynnu'r cais yn ôl os nad yw'r opsiwn yn bosibl. Pe bai'r Cyngor yn cyflwyno'r cais yn ddiweddarach, bydden ni’n methu'r dyddiadau cau sydd wedi’u nodi yn yr amodau cyllido gan Lywodraeth y DU. Y cyfarfod trafod cychwynnol neithiwr yw dechrau taith gyda'n masnachwyr, gan fod eu cyfraniad nhw'n rhan hanfodol o'r ffordd rydyn ni'n dylunio cartref newydd ar gyfer Marchnad Llanelli.”

Mae disgwyl y bydd y maes parcio yn cael ei ddymchwel ar ôl symud Marchnad Llanelli o'r maes parcio aml-lawr. Mae'r Cyngor Sir yn adolygu'r holl ddarpariaeth barcio yn y dref a bydd y lleoedd parcio arhosiad hir sy'n cael eu colli o'r maes parcio aml-lawr yn cael eu darparu drwy'r meysydd parcio cyhoeddus eraill yn y dref, cyn cael ateb tymor hwy.

 

Mae'r Cyngor yn trafod â masnachwyr a rhanddeiliaid allweddol Marchnad a Chanol Tref Llanelli i sicrhau bod gennyn ni gynllun cynaliadwy ar gyfer Marchnad Llanelli yn y dyfodol. Mae'r adeilad presennol yn agosáu at ddiwedd ei oes, ac rydyn ni am gytuno ar ffordd ymlaen ar y cyd i greu marchnad newydd i'r dref. Rydyn ni wedi cael gwybod bod yr adeilad yn ddiogel i'w ddefnyddio, ond mae angen i ni gynllunio ar gyfer diwedd oes yr adeilad.

Dim o gwbl. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i sicrhau bod gan Lanelli farchnad ffyniannus am ddegawdau i ddod, ac rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid i adfywio canol tref Llanelli.

Hyd yn hyn, rydyn ni wedi ystyried 4 opsiwn. Dyma nhw:

  1. Symud dros dro i ddarpariaeth awyr agored neu ddarpariaeth arall, cyn symud i gartref newydd ar safle presennol y farchnad.
  2. Symud y farchnad i Dde Stryd y Farchnad.
  3. Symud y farchnad i hen adeilad Woolworths, 8-12 Stryd Vaughan.
  4. Opsiwn hybrid, sef symud y farchnad i 8-12 Stryd Vaughan a symud rhai masnachwyr i safleoedd manwerthu gwag yng nghanol y dref.

Ydy, mae'r adeilad presennol wedi cael ei fonitro ac yn parhau i gael ei fonitro gan beirianwyr i sicrhau ei fod yn ddiogel. Diogelwch pobl yw prif flaenoriaeth yr Awdurdod. 

Mae peirianwyr yn cynnal archwiliadau misol i fonitro cyflwr yr adeilad yn fanwl. Mae'r holl atgyweiriadau angenrheidiol yn cael eu cofnodi mewn amserlen cynnal a chadw ac yn cael sylw gan gontractwr penodedig yn unol â threfn flaenoriaeth. 

Cafodd y maes parcio aml-lawr yn Llanelli ei adeiladu ym 1969 ac mae'n 56 oed erbyn hyn. Mae lle i 527 o geir yn y maes parcio presennol. Mae'r rhif hwn yn cynnwys lleoedd parcio arhosiad hir a lleoedd parcio arhosiad byr. Ar gyfartaledd mae 224 o docynnau yn cael eu defnyddio yn y maes parcio bob dydd. Fodd bynnag, gan ddefnyddio data o arolygon defnydd, mae nifer y lleoedd parcio sy'n cael eu defnyddio ar unrhyw un adeg yn llai na hyn.

O ystyried nifer y lleoedd parcio uchod, rydyn ni wedi adolygu'r holl ddarpariaeth barcio yn y dref a bydd y lleoedd parcio sy'n cael eu colli o'r maes parcio aml-lawr yn cael eu darparu drwy'r meysydd parcio cyhoeddus eraill yn y dref. Byddwn ni'n adolygu'r defnydd presennol o'r meysydd parcio ac yn ceisio newid y lleoedd arhosiad byr presennol i leoedd arhosiad hir. Bydd hyn yn darparu'r lleoedd arhosiad hir a fydd yn cael eu colli o’r maes parcio aml-lawr. 

Mae'r Cyngor wedi ystyried amrywiol opsiynau ac wedi nodi 4 opsiwn i'w cyflwyno i'r masnachwyr ym Marchnad Llanelli. O ystyried bod yr adeilad presennol yn agosáu at ddiwedd ei oes, un o'r opsiynau mwyaf posibl yw symud y farchnad i safle hen adeilad Woolworths yn 8-12 Stryd Vaughan. Bydd yr opsiwn hwnnw hefyd yn golygu mai Stryd Vaughan a Stryd Stepney yw prif ffocws y dref unwaith eto. 

Mae'r Cyngor wedi bod yn edrych ar opsiynau i ailddatblygu hen adeilad Woolworths yn Stryd Vaughan ers i'r adeilad gael ei brynu gan yr Awdurdod yn 2018. Yn dilyn hynny, mae'r Cyngor wedi sicrhau Cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU i ailddatblygu'r adeilad ac, ar ôl ymdrechion cychwynnol i ailddatblygu'r safle fel Hwb Iechyd, mae cyfle ar gael i osod Marchnad Llanelli ar y safle. Mae'r opsiwn hwn wedi'i ystyried gan wybod bod safle presennol y farchnad, sef yr adeilad aml-lawr, yn gyfyngedig ei oes. 

Mae'r Cyngor wedi bod yn datblygu'r opsiwn hwn, gan ein bod am sicrhau bod modd gosod darpariaeth bresennol y farchnad yn llawn ar y safle ac mae ymchwiliadau'n awgrymu bod modd gwneud hynny. Rydyn ni hefyd am sicrhau bod modd cynnig y ddarpariaeth newydd yn unol ag amserlen cyllid Llywodraeth y DU a’r defnydd o’r cyllid hwnnw gan fod yn rhaid i gais am gyllid gael ei gyflwyno a'i wario ar brosiectau adfywio economaidd.  Rydyn ni'n wynebu amserlenni tynn i sicrhau'r arian ar gyfer y prosiect hwn a sicrhau bod yr opsiwn hwn yn parhau i gael ei ystyried i ddarparu marchnad newydd yng nghanol tref Llanelli. Byddai angen i ni gyflwyno cais cyn-gynllunio i greu marchnad newydd yn 8-12 Stryd Vaughan yn yr wythnosau nesaf. Oherwydd y cyfyngiadau amser, mae'n well cyflwyno'r cais cyn-gynllunio yn ystod yr amserlen hon, gyda'r dewis o dynnu'r cais yn ôl os nad yw'r opsiwn yn bosibl. Pe bai'r Cyngor yn cyflwyno'r cais yn ddiweddarach, bydden ni’n methu'r dyddiadau cau sydd wedi’u nodi yn yr amodau cyllido gan Lywodraeth y DU.

Mae llawer o enghreifftiau o farchnadoedd sydd wedi'u hailddatblygu ac sy'n llwyddiannus iawn. Os bydd y dyluniad a'r hyn sy'n cael ei gynnig yn iawn yn adeilad y farchnad yn y dyfodol, yna rydyn ni'n credu y bydd yr ymwelwyr yn dod. Os bydd yr opsiwn hwn yn cael ei ddewis, y Cyngor Sir, masnachwyr y farchnad a rhanddeiliaid ehangach, gyda'i gilydd, fydd yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn llwyddiant a bydd y Cyngor yn gweithio gyda masnachwyr y farchnad i ddatblygu cysyniad a dyluniad yr adeilad. Rydyn ni wedi gofyn i benseiri weithio gyda ni i gyd i greu adeilad fydd yn addas ar gyfer y dyfodol a helpu i adfywio'r dref. 

 

Y Camau Nesaf
Fel y Cyngor, rydyn ni am weithio gyda chi i gytuno ar ffordd ymlaen a darparu marchnad sy'n addas ar gyfer y dyfodol mae'r dref yn gallu bod yn falch ohoni. Rydyn ni am ystyried barn pawb a chytuno ar y cyd ar ffordd ymlaen. 

Opsiwn 3 – Cais Cyn Ymgeisio
Er mwyn parhau i ystyried yr holl opsiynau, a bodloni gofynion amserlen y cyllidwyr, rydyn ni'n bwriadu cyflwyno cais cyn-gynllunio cyn bo hir ar gyfer opsiwn 3 h.y. creu marchnad newydd yn 8-12 Stryd Vaughan. Byddai oedi cyn cyflwyno'r cais hwn yn golygu na fydden ni'n gallu cyflawni'r farchnad erbyn gwanwyn 2028. Er ein bod yn cyflwyno'r cais cyn ymgeisio, dyw hynny ddim yn golygu mai hwn fydd yr opsiwn sy'n cael ei gyflawni.