Cronfa Murluniau newydd wedi'i lansio i fywiogi canol trefi Sir Gaerfyrddin
9 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Cronfa Murluniau newydd i helpu i ddod â chelf gyhoeddus beiddgar ac ysbrydoledig i ganol trefi sy'n gwella'r dirwedd weledol ac yn dathlu treftadaeth leol.
Mae'r gronfa yn agored i berchnogion a lesddeiliaid eiddo masnachol yng nghanol trefi Llanelli, Caerfyrddin, Rhydaman a Phorth Tywyn, ac mae'n cefnogi dylunio a gosod murluniau hyd at £2,000 gyda chyfradd ymyrraeth o 80% fesul eiddo.
Mae'r grant yn agored tan fis Medi 2025.
Mae busnesau Sir Gaerfyrddin hefyd yn cael eu hannog i fanteisio ar y Grant Adnewyddu Canol Trefi ochr yn ochr â'r Grant Murluniau, sy'n canolbwyntio ar welliannau allanol i ffasadau adeiladau ac sy'n parhau ar agor tan 30 Medi 2025.
Mae'r ddau gynllun cyllido yn cael eu cefnogi gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac maent yn rhan o raglen ehangach sir Gaerfyrddin o raglen fuddsoddi ac adfywio sydd â'r nod o adfywio strydoedd mawr Sir Gaerfyrddin, cefnogi busnesau, dathlu hunaniaeth leol a rhoi hwb i fywiogrwydd, ymddangosiad a nifer yr ymwelwyr yng nghanol trefi.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae'r gronfa hon yn gyfle cyffrous i fywiogi canol ein trefi ac adrodd straeon trwy gelf gyhoeddus.”
“Gall murluniau greu ymdeimlad o le, dechrau sgyrsiau a denu ymwelwyr. Rydyn ni'n falch o gefnogi prosiectau sydd nid yn unig yn edrych yn wych ond hefyd yn helpu i adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig.”
Ewch i wefan y Cyngor am fwy o wybodaeth.