Clybiau chwaraeon Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â chŵn ar gaeau chwaraeon

2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gwahodd yr holl glybiau chwaraeon lleol i ymuno ag ymdrech i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig â chŵn, yn enwedig cŵn yn baeddu, ar gaeau chwaraeon sydd wedi'u marcio.

Mewn ymateb i bryderon cynyddol gan glybiau a chymunedau, mae'r Cyngor wedi datblygu Pecyn Cymorth Casglu Tystiolaeth i helpu clybiau i gofnodi amlder a difrifoldeb digwyddiadau sy'n effeithio ar eu harddaloedd chwarae. Bydd y wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn cefnogi'r Cyngor i asesu graddfa'r broblem ac i lywio unrhyw welliannau posibl i Orchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus.

Lansiwyd y pecyn cymorth gyntaf ym mis Tachwedd 2024, mewn partneriaeth â Chynghorau Tref a Chymuned, gyda sawl clwb eisoes yn cymryd rhan yn y broses. Rydyn ni bellach yn adeiladu ar yr allgymorth cychwynnol hwnnw gydag ymgyrch ehangach i sicrhau bod pob clwb chwaraeon ledled y sir yn cael cyfle i gymryd rhan.

Mae'n bwysig nodi bod y pecyn cymorth wedi'i gynllunio'n benodol i fynd i'r afael â materion ar gaeau chwaraeon wedi'u marcio ac nid yw wedi'i fwriadu i'w ddefnyddio mewn ardaloedd parc cyffredinol.

Drwy weithio gyda'n gilydd a chasglu tystiolaeth gywir, gallwn amddiffyn ein mannau chwaraeon gwerthfawr yn well a sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel ac yn groesawgar i chwaraewyr a gwylwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw ein caeau chwaraeon i gymunedau lleol ledled Sir Gaerfyrddin. Mae baw cŵn nid yn unig yn creu amodau annymunol ond hefyd yn peri risgiau iechyd gwirioneddol i chwaraewyr a phobl ifanc sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn. 
Mae'r pecyn cymorth hwn yn rhoi ffordd ymarferol i glybiau gofnodi ac adrodd materion fel y gallwn gymryd camau gwybodus lle bo angen. Rwy'n annog pob clwb sy'n profi problemau i gymryd rhan. Mae eich cyfraniad yn hanfodol i'n helpu i gadw'r lleoedd hyn yn lân, yn ddiogel ac yn addas i'r diben."

I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb yn y Pecyn Cymorth Casglu Tystiolaeth, cysylltwch â: pspodogorders@sirgar.gov.uk