Chwalu Ffiniau: dathlu menywod Sir Gâr ym maes chwaraeon

3 diwrnod yn ôl

Agorodd Chwalu Ffiniau, arddangosfa sy'n cael ei chefnogi gan Gyngor Sir Gâr, yn Amgueddfa Parc Howard ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ar 8 Mawrth 2025. Mae'r arddangosfa, sy'n dod i ben ar 19 Hydref 2025, yn dogfennu ac yn arddangos cyflawniadau menywod o bob rhan o'r sir ym maes chwaraeon, ac mae nifer o'r cyflawniadau hyn heb gael eu cydnabod yn eang o'r blaen.

Cafodd y prosiect ei ddatblygu gan CofGâr gyda chyllid gan y Rhwydwaith Treftadaeth Chwaraeon. Mae'n seiliedig ar ymchwil gan Hannah Jones, sef gwirfoddolwr oedd wedi dechrau ymchwilio i'r maes ar ôl i'w hanes teuluol ddarparu'r ysbrydoliaeth gychwynnol. Nod Chwalu Ffiniau yw rhoi persbectif newydd ar ein treftadaeth chwaraeon ac ysbrydoli sêr chwaraeon newydd ein hoes.

Cydweithiodd CofGâr â chlybiau chwaraeon lleol, colegau, a Chwaraeon a Hamdden Actif i dynnu sylw at gyfleoedd ym maes chwaraeon menywod ac i nodi straeon ysbrydoledig. Cafodd grŵp o guraduron ifanc o bob rhan o Sir Gâr eu dewis i gydguradu'r arddangosfa. Cafodd gweithdai ar gynnal cyfweliadau a gwneud ffilmiau eu trefnu i alluogi'r curaduron ifanc i ddatblygu profiad o ran y cyfryngau, ymchwil ac arddangosfeydd, ac fe wnaethon nhw gyfweld â merched ym maes chwaraeon ledled y sir.

Mae'r arddangosfa'n cynnwys eitemau sydd wedi cael eu rhoi a'u benthyca fel crysau, medalau a thlysau, ynghyd â dehongliadau gan y curaduron. Mae'n cynnwys unigolion o Sir Gâr ym maes chwaraeon yn y gorffennol, fel Margaret Jennings a Molly Phillips, ochr yn ochr ag athletwyr mwy diweddar fel Lisa Pudner a Lynne Thomas. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan bobl dalentog sy'n dod i'r amlwg fel Maygan Fox, sef seren y dyfodol ym myd jw-jitsw. Un o'r ychwanegiadau diweddaraf yw crys pêl-droed Cymru Ffion Morgan, a gafodd ei geni yn Llandeilo. Gwisgodd Ffion y crys hwn yn ystod rowndiau cymhwyso Ewro 2025, ac mae ar hyn o bryd gyda'r tîm cenedlaethol yn cystadlu yn y Pencampwriaethau yn y Swistir.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae Chwalu Ffiniau yn rhoi cydnabyddiaeth hir-ddisgwyliedig i gyflawniadau menywod yn hanes chwaraeon Sir Gâr. Mae'n hanfodol ein bod yn dal i ddatgelu a rhannu'r straeon hyn, fel eu bod yn dod yn rhan weladwy o'n treftadaeth gyfunol. Mae prosiectau fel hyn yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb ym maes chwaraeon ac annog pobl ifanc, yn enwedig merched, i weld beth sy'n bosibl.”

Ar ôl ei chynnal yn Amgueddfa Parc Howard, mae bwriad i'r arddangosfa fynd ar daith o amgylch lleoliadau ledled y sir.