Cau ffordd y B4459 Pencader i wneud gwaith brys
13 diwrnod yn ôl
Bydd ffordd y B4459 ger Bryn Gwinau, Pencader (SA39 9HL) yn cael ei chau ddydd Sul 27 Gorffennaf i wneud gwaith brys, o bwynt 1.2 cilometr i'r gogledd-orllewin o'r gyffordd â'r A485 am bellter o 526 metr i gyfeiriad y gogledd-orllewin.
Mae angen cau'r ffordd tra bydd BT Openreach yn gwneud gwaith i adfer gwasanaethau cwsmeriaid rhwng 8am a 3pm.
Lle bo'n bosibl, bydd mynediad i gerddwyr, yn ogystal â mynediad i fysiau lleol y mae hyn yn effeithio arnyn nhw, sef T1/T1c (0833, 1033, 1233, 1433, 1633, 1833, 1221, 1421, 1621, 1821, 2021, 1038 a 1959).
Y ffordd arall:
Dylai traffig sy'n teithio tua'r gogledd-orllewin fynd i gyfeiriad y de-ddwyrain ar hyd y B4459 hyd at y gyffordd â'r A485. Troi i'r chwith i'r A485 a pharhau i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain drwy Wyddgrug a New Inn hyd at y gyffordd â'r B4336. Troi i'r chwith i'r B4336 a pharhau i gyfeiriad y gogledd-orllewin hyd at y gyffordd â'r B4459 yn Llanfihangel-ar-arth. Troi i'r chwith eto i'r B4459 a theithio i gyfeiriad y de/de-ddwyrain drwy Cross Inn a Phencader i ailymuno â'r ffordd i'r gogledd-orllewin o'r man lle mae'r ffordd ar gau. I'r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy'n teithio tua'r de-ddwyrain.
Bydd mynediad i gerddwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus drwy gydol y cyfnod y bydd y ffordd ar gau.