Cabinet yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer ysgol yn lle Heol Goffa
7 diwrnod yn ôl
Heddiw (dydd Iau 31 Gorffennaf 2025) mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi penderfynu cymryd yr opsiwn i greu ysgol newydd i 150 o ddisgyblion yn lle ysgol Heol Goffa yn Llanelli.
Bydd yr ysgol newydd yn cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol (SLD) ac anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD) yn ardal Llanelli. Mae gwaith ychwanegol eisoes yn digwydd i ateb y galw gan ddisgyblion ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) yn Llanelli drwy ddulliau eraill.
Daw penderfyniad y Cabinet yn dilyn adolygiad annibynnol o addysg arbenigol yn ardal Llanelli, ac ymgynghoriad â chymuned ysgol Heol Goffa ar ôl cyhoeddi'r adolygiad.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:
Rwy'n falch iawn bod y Cabinet wedi cymeradwyo cynlluniau heddiw i greu ysgol newydd i 150 o ddisgyblion yn lle Heol Goffa, gan roi rhagor o gyfleoedd addysg i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ardal Llanelli.
Mae'r broses adolygu drylwyr a'r ymgynghori fu wedyn gyda disgyblion, athrawon, rhieni a llywodraethwyr yn Heol Goffa wedi ein galluogi ni i gynllunio ffordd gynaliadwy a chadarnhaol ymlaen i'r ysgol a dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud nawr i fireinio a chwblhau'r dyluniad, cadarnhau'r costau, ac ymgysylltu â chymuned yr ysgol. Byddwn ni hefyd yn bwrw ymlaen â'r gwaith angenrheidiol o gymeradwyo achosion busnes gyda Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r ymgynghori statudol sy'n ofynnol dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion.”