Buddsoddiad o £4.8 miliwn i wella ffyrdd Sir Gaerfyrddin yr haf hwn

2 diwrnod yn ôl

Mae buddsoddiad o £4.8 miliwn yn cael ei wneud yr haf hwn i wella cyflwr ffyrdd lleol, ac mae rhaglen waith fawr bellach ar waith.

Dechreuodd y rhaglen ail-wynebu ffyrdd ar 1 Gorffennaf a bydd yn targedu tua 50 o ddarnau ffyrdd trefol a gwledig ledled y sir, gyda £3.3 miliwn wedi'i ddyrannu i gyflawni gwelliannau hirdymor i lwybrau allweddol.

Yn ogystal, mae £1.5 miliwn arall wedi'i ymrwymo i waith trin wyneb ataliol – sydd hefyd yn cael ei alw'n 'gosod wyneb ffyrdd' – a fydd yn dechrau ddydd Llun, 7 Gorffennaf. Mae gosod wyneb ffyrdd yn ddull cost-effeithiol ac effeithlon o selio craciau, adfer gafael, ac ymestyn oes ffyrdd. Hefyd mae'r triniaethau hyn yn golygu bod tyllau'n llai tebygol o ddatblygu yn y dyfodol.

Mae £1 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi mewn gwaith hanfodol i gynnal a chadw a gwella pontydd, ochr yn ochr â £400,000 ar gyfer atgyweirio troedffyrdd sydd wedi dirywio, gan helpu i wella diogelwch a hygyrchedd llwybrau cerdded.

Er mwyn lleihau tarfu, bydd arwyddion rhybudd yn cael eu gosod ymlaen llaw ym mhob lleoliad, a bydd manylion llawn am unrhyw drefniadau rheoli traffig – gan gynnwys achosion angenrheidiol o gau ffyrdd – yn cael eu cyhoeddi ar Causeway one.network. Mewn rhai achosion, bydd y gwaith yn cael ei drefnu yn ystod adegau tawel a bydd ffyrdd ar gau fel arfer o 7:00pm.

Bydd mynediad i wasanaethau brys a busnesau lleol yn cael ei gynnal lle bynnag y bo modd.

Y cyngor i yrwyr yw cynllunio ymlaen llaw a chymryd rhagor o ofal wrth deithio ger mannau gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Rydyn ni wrthi'n cyflawni un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol yn y seilwaith ffyrdd hyd yn hyn. Dim gwneud atgyweiriadau tymor byr yn unig yw diben y rhaglen hon, ond hefyd gwneud ein ffyrdd yn fwy diogel, cryf a gwydn ar gyfer y dyfodol.
Er na allwn ni drin pob ffordd, bydd y cyfuniad o ail-wynebu a gwaith atal yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Sir Gâr. Hoffwn i ddiolch i'r trigolion i gyd ymlaen llaw am eu hamynedd yn ystod y gwaith hanfodol hwn."

Mae ein rhaglen ail-wynebu yn dilyn dull seiliedig ar risg sy'n ystyried hierarchaeth y rhwydwaith a maint y traffig wrth flaenoriaethu ein rhaglen derfynol.