Baneri gwyrdd yn chwifio ym mharciau Sir Gaerfyrddin

2 diwrnod yn ôl

Mae tri pharc sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi cael eu cydnabod yn swyddogol fel rhai o'r mannau gwyrdd gorau yng Nghymru.

Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Parc Coetir y Mynydd Mawr, a Pharc Gwledig Pen-bre i gyd wedi cadw eu Gwobr Baner Werdd, marc ansawdd a ddyfarnwyd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru'n Daclus.

Maen nhw ymhlith 315 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru i fodloni'r safonau uchel sy'n ofynnol ar gyfer y meincnod rhyngwladol hwn o ragoriaeth.

Yn ogystal â'r safleoedd sy'n cael eu rhedeg gan y Cyngor, mae saith o fannau cymunedol yn Sir Gaerfyrddin hefyd wedi cael eu cydnabod â Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, gan gynnwys dau safle sydd newydd gael eu gwobrwyo: Gardd Gymunedol Porth Tywyn a Ffrindiau Parc Betws. Mae'r rhestr lawn o enillwyr cymunedol yn cynnwys:

·      Gardd Gymunedol Porth Tywyn

·       Prosiect Cymunedol Synhwyraidd Cydweli

·       Gardd Gymunedol Danyrhelyg

·       Gardd Gymunedol Footholdcymru

·       Ffrindiau Bet ws

·       Cae Chwarae Coffa Llanfallteg

·       Parc Pontyberem

Mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr a grwpiau lleol sy'n gofalu'n angerddol am eu mannau gwyrdd cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydym yn falch o weld parciau Sir Gaerfyrddin yn cael eu cydnabod unwaith eto am eu hansawdd rhagorol a'r ymrwymiad sy'n mynd i'w cynnal a'u cadw nhw. Mae'r mannau gwyrdd hyn yn rhan hanfodol o'n cymunedau gan ddarparu lle ar gyfer hamdden, natur a llesiant. Mae'r wobr hon yn dyst i waith ein staff, ein gwirfoddolwyr, a'n grwpiau cymunedol sy'n gofalu amdanyn nhw. Llongyfarchiadau i bawb sy'n rhan ohonyn nhw."

Mae'r gwobrau hyn yn gosod mannau gwyrdd Sir Gaerfyrddin ymhlith y goreuon yn y byd, gyda pharciau yn cael eu hasesu ar feini prawf sy'n cynnwys rheolaeth amgylcheddol, bioamrywiaeth, glendid, diogelwch a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Lucy Prisk, Cydgysylltydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru'n Daclus:

Rydyn ni wrth ein bodd i weld 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru yn ennill statws y Faner Werdd, sy'n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.
Mae mannau gwyrdd o safon yn hanfodol i lesiant corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith y goreuon yn y byd yn gamp a hanner - Llongyfarchiadau!”

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadwch Gymru'n Daclus: www.keepwalestidy.cymru