Ysgolion Sir Gaerfyrddin yn arwain y ffordd ym maes peirianneg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddigidol
2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn dathlu llwyddiant prosiect addysg arloesol sydd wedi rhoi sgiliau hanfodol i gannoedd o bobl ifanc mewn Peirianneg ac Astudiaethau Digidol, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Wedi'i lansio yn 2020, y fenter oedd y prosiect peilot cyntaf wedi'i ariannu gan Raglen Sgiliau a Thalentau'r Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Dan arweiniad Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin ac Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth, mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, cafodd y rhaglen ei chreu i fynd i'r afael â bwlch sgiliau rhanbarthol a rhoi llwybr clir i fyfyrwyr i yrfaoedd lle mae galw mawr.
Ers ei lansio, mae 843 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar gymwysterau Lefel 2 a Lefel 3, ac mae tua 40% o fyfyrwyr Lefel 2 wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach. Mae llawer wedi mynd ymlaen i'r coleg, y brifysgol neu brentisiaethau, gan ddangos effaith barhaol y rhaglen.
Drwy weithio'n agos gyda'r brifysgol, mae myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol drwy ddefnyddio offer safonol y diwydiant ac yn elwa o ymchwil flaengar. Mae'r cydweithrediad hwn yn sicrhau eu bod yn barod i gymryd eu camau nesaf i addysg bellach neu gyflogaeth.
Mae'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau yn un o naw prosiect ym Margen Ddinesig Bae Abertawe, ac fe'i rheolir gan y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol. Mae'n cefnogi datblygiad sgiliau yn y dyfodol ar draws pum sector allweddol: adeiladu, ynni, digidol, gweithgynhyrchu, ac iechyd. Hyd yma, mae'r rhaglen wedi cefnogi 23 o brosiectau peilot a datblygu pedair rhaglen brentisiaeth newydd. Erbyn 2030, y nod yw rhoi cymwysterau Lefel 2 ac uwch i 14,000 o unigolion, cynyddu sgiliau 2,200 o unigolion, darparu 3,000 o brentisiaethau, 20 cwrs newydd a dwy Ganolfan Ragoriaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg:
Mae'r rhaglen hon yn dangos beth sy'n bosibl pan fyddwn ni'n buddsoddi mewn pobl ifanc drwy'r Gymraeg. Mae ein hysgolion yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau'r byd go iawn sydd eu hangen ledled Cymru a thu hwnt. Rydym yn hynod falch o'u cyflawniadau ac yn llawn cyffro i weld twf parhaus y gwaith pwysig hwn.”
Dywedodd Dr Llinos Jones, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Mae Gwobrau'r Rhaglen Sgiliau a Thalentau wedi bod yn gatalydd ar gyfer newid trawsnewidiol, gan alluogi ein menter addysgol arloesol i gyrraedd uchelfannau newydd yn ein hysgolion. Mae'r cyllid hwn wedi ehangu mynediad at adnoddau dysgu hanfodol ynghyd â grymuso dysgwyr gyda sgiliau ar gyfer y dyfodol, gan feithrin twf a chyfleoedd rhanbarthol hirdymor.”
Ychwanegodd Jane Lewis, Rheolwr y Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol:
Mae'r prosiect hwn wedi rhoi mantais i gynifer o bobl ifanc mewn gyrfaoedd sy'n hanfodol i'n rhanbarth. Rydym yn falch o'i gefnogi ac yn gobeithio y bydd hyd yn oed mwy o fyfyrwyr yn cael eu hysbrydoli i ddilyn llwybrau Peirianneg a Digidol."