Y Cyngor yn lansio prentisiaethau cyffrous newydd
2 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ystod eang o gyfleoedd prentisiaeth newydd.
O ddata a systemau, dysgu digidol, cyllid, makerspace (llyfrgelloedd), mecanydd, hamdden a mwy - mae amrywiaeth eang o rolau ar gael, i'r rheiny sydd newydd ddechrau mas neu'n barod ar gyfer newid gyrfa.
Mae manylion llawn am bob rôl ar gael ar wefan Amdani y Cyngor www.carmarthenshire.gov.wales/apprenticeships
https://www.sirgar.llyw.cymru/amdani
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Sul, 6 Gorffennaf.
Mae'r Cyngor yn cynnal sesiynau gwybodaeth am brentisiaethau wyneb yn wyneb ac ar-lein lle gallwch ddarganfod mwy am yrfa ymarferol yn eich maes dewisol.
- Dydd Llun, 16 Mehefin - Llyfrgell Rhydaman rhwng 1pm a 6pm
- Dydd Mawrth, 17 Mehefin - Llyfrgell Llanelli rhwng 1pm a 6pm
- Dydd Mercher, 18 Mehefin - Ymunwch ar-lein am 6pm Cofrestrwch yma
- Dydd Iau, 19 Mehefin - Llyfrgell Caerfyrddin rhwng 1pm a 6pm
- Dydd Llun, 23 Mehefin - Ymunwch ar-lein am 1pm Cofrestrwch yma
Yn ystod y sesiynau hyn, bydd Rheolwyr wrth law i gwrdd â chi a dweud mwy wrthoch chi am y prentisiaethau sydd ar gael. Bydd cymorth hefyd ar sut i wneud cais, y broses ffurflen gais a dysgu sut mae prentisiaethau yn gweithio ac at beth mae'r cymwysterau'n arwain.
Yn ogystal, bydd cyfle i glywed straeon gan bobl a oedd unwaith lle rydych chi nawr a chael cyngor ganddyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Drefniadaeth a'r Gweithlu:
Mae prentisiaethau yn gyfle gwych i ennill wrth i chi ddysgu ac i ddatblygu sgiliau ymarferol a pharatoi ar gyfer y byd gwaith."
Mae'r prentisiaethau sydd ar gael yn cynnwys:
- Prentis Datblygu Economaidd
- Prentis Fflyd (Gweithdy)
- Prentis Lefel Uwch Datblygu Systemau a Pherfformiad
- Prentis Lefel Uwch AD
- Prentis Lefel Uwch Peiriannydd Meddalwedd
- Prentis Data a Pherfformiad
- Prentis (Cyllid)
- Prentis Makerspace (Llyfrgelloedd)
- Prentisiaeth Cymorth Data Llifogydd ac Arfordirol
- Prentis Polisi
- Prentis Uwch Lefel 4 Cyfieithydd
- Prentis Dysgu Digidol
- Prentis Arlwyo
- Prentis Gwasanaeth Cwsmeriaid
- Prentis Cymorth Busnes