Y Cyngor yn Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2024-25

6 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol y Gymraeg, ar gyfer y flwyddyn 2024-25 

Dyma’r nawfed flwyddyn o weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg ac, er gwaethaf yr heriau parhaus yn wyneb pwysau cyllidol, llwyddwyd i barhau i gynnal safonau uchel wrth ddarparu gwasanaethau i’n trigolion drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Cyngor yn falch o’i hymdrechion parhaus i hyrwyddo a chefnogi’r Gymraeg yn fewnol, ar draws amrywiaeth o feysydd polisi, ac o dan gyfrifoldebau ein Safonau Hybu. Mae’r adroddiad yn tystio ymrwymiad y Cyngor i sicrhau bod y Gymraeg yn rhan annatod o wasanaethau a bywyd gwaith bob dydd.

Yn ystod 2024-25 dechreuwyd ar y broses o adolygu Strategaeth Sgiliau Iaith y Cyngor. O dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, mae swyddogion o’r Isadran Pobl, Polisi a Digidol wedi cydweithio er mwyn sefydlu ffrydiau gwaith penodol i edrych ar recriwtio, prentisiaethau, data a hyfforddiant. Mae manylion pellach i’w gweld fel astudiaeth achos o fewn yr adroddiad.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Y Cynghorydd Glynog Davies

Mae’n bleser gen i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Y Gymraeg Cyngor Sir Gâr ar gyfer 2024/25.
Dros y flwyddyn rydym wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau cynnydd pellach o ran gwaith mewnol y Cyngor yn ogystal ag adeiladu ar bartneriaethau gyda chyrff eraill er mwyn hybu’r Gymraeg ar draws Sir Gâr.
Mae’r Fforwm Sirol wedi parhau gyda’i rôl o ddatblygu rhaglen o hybu’r Gymraeg yn Sir Gâr ac wedi cyfrannu’n helaeth i gydgynllunio ar gyfer gweithredu Cynllun Gweithredu Strategaeth Hybu Sir Gâr, yn unol â’r Safon Hybu. Yn ogystal maent wedi bod yn arwain ar baratoi cynlluniau gweithredu fesul amcan o’r Strategaeth, a dymunaf ddiolch yn ddiffuant i bartneriaid y Fforwm sydd wedi arwain ar y meysydd gwaith hynny.
Yn ystod y flwyddyn bu cyfle i gydweithio gyda’r Ganolfan ar ystod o gyfleoedd i staff. Mae’r adborth o’r cyfleoedd hynny wedi bod yn bositif iawn, gyda’r staff yn nodi newid defnydd Iaith yn y gweithle mewn elfennau megis cynnal cyfarfodydd gyda chydweithwyr, cymryd cofnodion a chynnal asesiadau. 
Diolch i bawb am bob cydweithrediad ac edrychwn ymlaen at flwyddyn brysur arall yn 2025-26.” 

Ewch i wefan y Cyngor Sir i ddarllen ei Adroddiad Blynyddol y Gymraeg 2024-25 yn llawn.