Y Cynghorydd Gary Jones wedi marw
18 awr yn ôl
"Roeddem yn drist o glywed am farwolaeth ein cydweithiwr, y Cynghorydd Gary Jones, yn ddiweddar.
Parhaodd Gary i fod yn bresenoldeb ymroddedig yn y siambr, ac roedd bob amser yn barod i gynrychioli ei gymuned gyda gofal ac uniondeb.
Etholwyd Gary i'r Cyngor yn 2017 a gwasanaethodd fel aelod o'r Cyngor llawn. Roedd yn gynrychiolydd meddylgar ac ymroddedig i'w gymuned a daeth â llais tawel, ystyriol i'r siambr.
Yn gyn-gadeirydd Cyngor Cymuned Llangennech ac yn weithiwr hir i Tata Steel yn Nhrostre, rhoddodd Gary lawer o'i amser i wasanaeth cyhoeddus, a hynny â gostyngeiddrwydd ac ymroddiad bob amser.
Cydymdeimlwn â'i wraig, Cara, a'u dwy ferch ar yr adeg anodd hon."
Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, Darren Price