UEFA EWRO Menywod
2-27 Gorffennaf 2025
Cymru'n Creu Hanes
Mae disgwyl i Gymru greu hanes yn UEFA EWRO Menywod 2025, gan nodi ymddangosiad cyntaf y tîm erioed mewn twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr. O dan arweiniad y chwaraewr rhyngwladol o Ganada Rhian Wilkinson, a gymerodd yr awenau fel prif hyfforddwr yn 2024, cyflawnodd y tîm y gamp ryfeddol hon drwy sicrhau lle yn y rowndiau terfynol yn y Swistir.
Bydd y twrnamaint yn cael ei gynnal rhwng 2 a 27 Gorffennaf 2025, gyda gemau yn cael eu cynnal ar draws wyth lleoliad yn y Swistir. Mae Cymru yn rhan o Grŵp D sy'n heriol iawn ochr yn ochr â'r pencampwyr presennol Lloegr, Ffrainc a'r Iseldiroedd. Mae'r gêm agoriadol ar 5 Gorffennaf yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne, ac yna gemau yn erbyn Ffrainc a Lloegr. Bydd y ddau dîm uchaf o bob grŵp yn symud ymlaen i'r gemau gogynderfynol, gyda'r gêm derfynol i'w chynnal yn St. Jakob-Park, Basel ar 27 Gorffennaf.
Mae'r garreg filltir hon yn dyst i dwf a datblygiad pêl-droed menywod yng Nghymru, gan adlewyrchu blynyddoedd o ymroddiad a dyfalbarhad. Mae cyrraedd y gystadleuaeth nid yn unig yn arddangos talent a phenderfyniad y tîm ond mae hefyd yn ysbrydoli pêl-droedwyr benywaidd y dyfodol yng Nghymru a thu hwnt.
Wrth i Gymru baratoi i gystadlu ar y llwyfan Ewropeaidd, bydd cefnogaeth y cefnogwyr a chymunedau ledled y wlad yn hollbwysig. Mae'r cyflawniad hwn nid yn unig yn fuddugoliaeth i'r tîm ond yn ddathliad o gynnydd a photensial pêl-droed menywod yng Nghymru.

Taith ‘Ein Crys Cymru’ yn dod i Gaerfyrddin!
I ddathlu taith Cymru i UEFA EWRO Menywod 2025 ac i ennyn cyffro'r genedl, mae Crys Cymru enfawr yn teithio o amgylch y wlad - a bydd yn galw yma yng Nghaerfyrddin!
Bydd y crys Cymru enfawr 4 metr o uchder yn teithio ar hyd a lled y wlad yn ymweld â threfi a dinasoedd allweddol yn y cyfnod sy'n arwain at ein gêm gyntaf yn y grŵp. Mae'r daith yn dechrau yng nghanol mis Mehefin gyda chyhoeddiad swyddogol y garfan, ac yn dod i ben yng nghanol dinas Caerdydd ar 5 Gorffennaf, diwrnod ein gêm agoriadol.
Mae'r daith yn ymweld â'r canlynol:
Bae Caerdydd, Abertawe, Caerfyrddin, Dinbych-y-pysgod, Aberystwyth, Caernarfon, Bangor, Llandudno, Wrecsam, Y Drenewydd, Aberhonddu, Merthyr Tudful, Y Fenni, Casnewydd - cyn y diweddglo mawreddog yng nghanol dinas Caerdydd.
Ymunwch â ni ddydd Llun 23 Mehefin 2025, yn y Clos Mawr rhwng 11am a 7pm, wrth i ni groesawu'r fersiwn anferth hon o grys Cymru. Gyda'r geiriau "EWRO 2025" a gemau grŵp Cymru ar y blaen, a rhestr o'r garfan lawn ar y cefn, mae'r crys yn symbol o'r hyn mae'r wlad wedi'i gyflawni ac o'r twf yn yr angerdd sydd dros gêm y menywod.
Ar y diwrnod byddwch hefyd yn gallu cael cynllun EWRO 2025 i'w roi ar y wal er mwyn i chi allu dilyn pob gêm, nodi'r dyddiadau allweddol, a chefnogi Cymru.
Mae ysgolion cynradd lleol wedi cael eu gwahodd i fynychu rhwng 10:30am a 3:00pm, lle bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau pêl-droed hwyliog yn y Clos Mawr, yn mwynhau cael llun grŵp gyda'r crys, a chael cyfle i recordio negeseuon pob lwc i dîm Menywod Cymru. O 4:00pm ymlaen, bydd clybiau pêl-droed merched lleol yn ymuno â ni am brofiad tebyg.
Dyma'ch cyfle i ddangos cefnogaeth i'n tîm menywod anhygoel cyn eu gêm gyntaf ar 5 Gorffennaf. P'un a ydych chi'n gefnogwr gydol oes neu'n newydd i'r gêm, dewch draw, tynnwch lun, a byddwch yn rhan o hanes pêl-droed Cymru.

Menyw o Sir Gaerfyrddin sy'n Creu Hanes
-Ffion Morgan-
Pêl-droediwr ac aelod o Dîm Cenedlaethol cyntaf Cymru i gymhwyso ar gyfer cystadleuaeth UEFA Ewros Menywod.
Cafodd Ffion ei geni yn Llandeilo yn 2000. Dechreuodd chwarae pêl-droed pan oedd yn 4 oed, i dîm pêl-droed iau Saron a symudodd ymlaen i chwarae i dîm Merched Rhydaman pan oedd hi'n 11. Pan oedd hi'n 16 oed, aeth Ffion i astudio yn academi elît pêl-droed merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng Ngholeg y Cymoedd yn Ystrad Mynach. Arwyddodd gyda thîm Dinas Caerdydd yn 2019. Yn 2021 arwyddodd i dîm Bristol City, lle sgoriodd y gôl olaf yn y gêm a enillodd Gynghrair Pencampwyr y Menywod a dyrchafu’r tîm i Uwch Gynghrair y Menywod yn 2023.
Cafodd Ffion ei hysbrydoli i chwarae dros Gymru ar ôl cwrdd â chyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Loren Dykes pan oedd hi'n 7 oed. Ei breuddwyd yw dod yn esiampl dda i ferched ifanc eraill. Ym mis Gorffennaf bydd hi'n chwarae gyda Chymru wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth UEFA Ewro Menywod am y tro cyntaf.
Mae crys Cymru Ffion Morgan yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard
Fel rhan o'r arddangosfa Chwalu Ffiniau, rydym yn falch o arddangos darn o hanes chwaraeon - mae crys Cymru Ffion Morgan bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard.
Mae'r arddangosfa arbennig hon yn dathlu menywod arloesol ym myd chwaraeon, ac mae cyfraniad Ffion i bêl-droed Cymru a'i rôl yng nghamp hanesyddol y tîm cenedlaethol yn cyrraedd y Pencampwriaethau UEFA Ewro Menywod yn golygu bod ei chrys yn symbol pwerus o gynnydd ac ysbrydoliaeth.
Mae'r arddangosfa Chwalu Ffiniau yn cael ei chynnal tan 19 Hydref 2025, a gallwch ymweld ag Amgueddfa Parc Howard o ddydd Mercher i ddydd Sul, rhwng 10am a 5pm.