Theatrau Sir Gâr yn dathlu grym gwirfoddoli
28 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr yn dathlu ymroddiad ac effaith gwirfoddolwyr yn Theatrau Sir Gâr fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr (2-8 Mehefin).
Yn Theatrau Sir Gâr, gall gwirfoddolwyr gymryd rhan mewn amrywiaeth o rolau. Trwy'r rhaglen Llysgenhadon, maen nhw’n gweithio'n agos gyda Rheolwyr a thîm marchnata’r Theatr i hyrwyddo digwyddiadau, cefnogi cynulleidfaoedd, a helpu i lunio rhaglenni'r dyfodol. Boed wrth gyfarch gwesteion cyn perfformiadau, rhannu sioeau sydd ar fin dod gyda grwpiau lleol, darparu cymorth mewn perfformiadau hamddenol, neu gyfrannu syniadau at brosiectau creadigol, mae gwaith gwirfoddolwyr yn hanfodol i gadw'r theatr yn fywiog a chroesawgar.
Mae gwirfoddolwyr Theatrau Sir Gâr hefyd yn mwynhau cael cipolwg y tu ôl i'r llen, gan gynnwys rhagflas o'r tymor newydd, teithiau o gwmpas yr adeiladau, a sesiynau ymchwil a datblygu gyda chwmnïau sy'n ymweld. Nid yn unig mae'n gyfle i gysylltu â phobl o'r un meddylfryd, ond mae hefyd yn gyfle i ddatblygu sgiliau go iawn mewn theatr a marchnata, ac ennill Credydau Amser Tempo – y gellir eu cyfnewid am brofiadau yn lleol ac ar draws y DU.
Eleni, mae gwirfoddolwyr wedi helpu i lunio canllawiau newydd a hyd yn oed cyfrannu at ddylunio gwisgoedd gwirfoddoli newydd llachar. Mae ymrwymiad y Theatr i hygyrchedd a chynhwysiant hefyd wedi'i gryfhau trwy bartneriaeth ysbrydoledig gyda The Wallich, elusen sy'n cefnogi pobl sydd wedi profi digartrefedd a dibyniaeth.
Yn wreiddiol fel rhan o The Story Project , mae'r cydweithrediad â The Wallich wedi cael effaith sydd wedi newid bywydau. Mae cyfranogwyr a fu unwaith yn ansicr a fyddent yn cael eu croesawu i'r theatr bellach yn gwirfoddoli'n rheolaidd, yn mynychu perfformiadau - rhai am y tro cyntaf ers eu plentyndod - ac yn teimlo'n rhan o gymuned y theatr.
Dywedodd un gwirfoddolwr am ei daith:
Rwyf am ddweud diolch am y cyfleoedd gwirfoddoli. Mae wir wedi helpu fy hyder a fy annibyniaeth. Rwy'n teimlo mai dyma'r tro cyntaf i unrhyw un gredu ac ymddiried ynof mewn 17 mlynedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae'n wirioneddol ysbrydoledig gweld sut y gall gwirfoddoli drawsnewid bywydau, adeiladu hyder, ac agor drysau. Yn Theatrau Sir Gâr, mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth greu lleoliad diwylliannol a chynhwysol sy’n groesawgar i bawb. Mae eu gwaith yn cyfoethogi ein cymuned, ac rwy'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd y cam a darganfod pa mor werth chweil y gall gwirfoddoli fod."
P'un a ydych chi'n caru theatr, yn mwynhau cwrdd â phobl, neu'n awyddus i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, mae lle i chi yn ein tîm o wirfoddolwyr. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â Jo: jshackley@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01554 744408.