Taith 'Ein Crys Cymru' yn galw yng Nghaerfyrddin i ddathlu ymddangosiad cyntaf Menywod Cymru yn yr EWROs

12 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr yn dathlu carreg filltir yn hanes chwaraeon Cymru wrth i Dîm Pêl-droed Cenedlaethol Menywod Cymru baratoi i gystadlu am y tro cyntaf erioed mewn twrnamaint rhyngwladol mawr, sef UEFA EWRO Menywod 2025, sy'n cael ei gynnal yn Y Swistir rhwng 2 a 27 Gorffennaf 2025.

I ddathlu'r garreg filltir hon ac i ennyn cyffro'r genedl, mae crys Cymru enfawr 4 metr o uchder ar daith o amgylch rhai o drefi a dinasoedd Cymru.

Fel rhan o'r daith, bydd y crys yn dod i Gaerfyrddin ddydd Llun 23 Mehefin, lle bydd yn cael ei arddangos yn Y Clos Mawr rhwng 11am a 7pm. Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ymweld, tynnu lluniau, a dangos eu cefnogaeth i dîm cenedlaethol y merched cyn eu gêm agoriadol yn erbyn yr Iseldiroedd ar 5 Gorffennaf.

Gyda'r brandio "EWRO 2025" a gemau grŵp Cymru ar y blaen, a rhestr o'r garfan swyddogol ar y cefn, mae'r crys yn symbol o'r hyn mae'r wlad wedi'i gyflawni ac o'r twf yn yr angerdd sydd dros gêm y menywod.

Mae'r digwyddiad hefyd yn cynnwys gweithgareddau pêl-droed ar gyfer ysgolion cynradd lleol rhwng 10:30am a 3pm, ac yna lluniau grŵp gyda'r crys a chyfle i recordio negeseuon yn dymuno'n dda i'r tîm. Bydd clybiau pêl-droed menywod lleol hefyd yno o 4:00pm ar gyfer dathliad tebyg a hwyl y bêl gron. Bydd canlyniadur EWRO 2025 ar gael am ddim i helpu cefnogwyr i ddilyn y cyffro a chefnogi Cymru drwy gydol y twrnamaint.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Rydyn ni'n hynod falch o groesawu taith 'Ein Crys Cymru' i Gaerfyrddin fel rhan o'r dathlu cenedlaethol ynghylch ymddangosiad cyntaf Cymru yn UEFA EWRO Menywod eleni. Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i'n cymuned ddod at ei gilydd, dathlu cynnydd pêl-droed menywod, a dangos ein cefnogaeth i'r tîm cenedlaethol cyn eu gêm agoriadol. Rwy'n annog pawb i ymuno â ni yn Y Clos Mawr ddydd Llun.”