Sir Gaerfyrddin yn nodi Wythnos y Lluoedd Arfog 2025 gyda balchder

2 diwrnod yn ôl

Wythnos y Lluoedd Arfog yw 22-28 Mehefin a dyma gyfle i ni gefnogi'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog; o filwyr presennol y Lluoedd Arfog, i'w teuluoedd, cyn-filwyr a chadetiaid. 

Bydd baneri'n cael eu chwifio yn Neuadd y Sir ynghyd â neuaddau tref Rhydaman a Llanelli yn ystod yr wythnos.

Yn ystod yr wythnos hon rydym hefyd yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Wrth Gefn (25 Mehefin) a Diwrnod y Lluoedd Arfog ddydd Sadwrn (28 Mehefin).

Ar Ddiwrnod y Lluoedd Wrth Gefn (25 Mehefin), mae Hayley Edwards, ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog sydd hefyd yn aelod o'r Lluoedd wrth Gefn, wedi rhannu ei phrofiadau o'i rolau yn y Lluoedd Wrth Gefn a'i gyrfa sifil gyda'r Cyngor. 

Ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog (28 Mehefin) bydd y Cynghorydd Philip Hughes yn derbyn Baner y Lluoedd Arfog mewn seremoni yng Nghil-y-coed yn barod i gynnal y digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin yn 2026. 

Mae Hayley Edwards, ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog ac aelod o'r Lluoedd wrth Gefn wedi cael ei galw i wasanaethu.

Mae'n Filwr Wrth Gefn gyda dros 30 mlynedd o wasanaeth, a chafodd Hayley ei chomisiynu i'r Corfflu Logisteg Brenhinol ym 1995 ac mae hefyd wedi gwasanaethu'n llawn amser am dair blynedd yn ystod ei gyrfa. Dyma'r ail dro iddi gael ei galw i wasanaethu o rôl sifil, sy'n dyst i'w gallu i addasu a'i hymroddiad diwyro i wasanaethu. 

Wrth ystyried yr alwad i wasanaethu, dywedodd Hayley:

Er i ddechrau roeddwn i'n teimlo rhywfaint o bryder am fynd i wasanaethu roeddwn hefyd yn edrych ymlaen at yr her. Mae hwn yn gyfle anhygoel i ddysgu sgiliau newydd a defnyddio fy mhrofiad milwrol a sifil mewn ffordd ystyrlon.”

Mae rôl Hayley yn y Cyngor yn canolbwyntio ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog ac mae'n rheoli rhanddeiliaid a gweithio'n agos gyda Chymuned y Lluoedd Arfog ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro - ymrwymiad y mae'n ei adlewyrchu yn ei gyrfa filwrol. 

Ychwanegodd Hayley:

Rwy'n ddiolchgar iawn fy mod yn gweithio i gyflogwr sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog ac mae'r gefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y cyfnod pontio hwn." 

Fel cyflogwr sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog, mae'r Cyngor wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi Milwyr wrth Gefn a chymuned ehangach y Lluoedd Arfog. 

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a’r Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a’r Gweithlu:

Fel cyflogwr, rydym yn gefnogol iawn i gymuned y Lluoedd Arfog a phopeth maen nhw'n ei gyfrannu i'n cymunedau. Fel cyflogwr sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog, rydym yn cydnabod y rôl hanfodol y mae ein Milwyr wrth gefn yn ei chwarae wrth gyfrannu at amddiffyn ein cenedl. Rydym yn falch iawn o Hayley, fel aelod gwerthfawr o dîm Cyngor Sir Caerfyrddin ac fel Milwr wrth gefn ymroddedig."

Dyfarnwyd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn i Gyngor Sir Caerfyrddin ym mis Medi 2023 i gydnabod y gefnogaeth mae'r cyngor yn ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog drwy roi ar waith arferion a pholisïau cyflogaeth sy'n ystyriol o'r Lluoedd Arfog. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Phillip Hughes: 

"Rydyn ni'n gwbl gefnogol i Hayley yn ystod ei chyfnod yn gwasanaethu ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yn yr ymgyrch bwysig hon. Edrychwn ymlaen at ei chroesawu yn ôl a chlywed popeth am ei phrofiadau ar ôl dychwelyd.”