Sir Gaerfyrddin yn nodi Diwrnod Aer Glân gyda chynnydd cadarn mewn Ansawdd Aer

8 diwrnod yn ôl

Mae aer glân ac ansawdd aer ar gyfer trigolion a'r miliynau o ymwelwyr â'n sir hardd yn hynod o bwysig i Gyngor Sir Caerfyrddin.

I nodi Diwrnod Aer Glân, 19 Mehefin, mae'r Awdurdod Lleol yn tynnu sylw at y gwelliant parhaus a sylweddol mewn ansawdd aer ledled y sir ers 2009.

Mae gwelliannau mewn arferion trafnidiaeth, datblygiadau mewn technoleg lanach, ac ymyriadau sydd wedi'u targedu gan y Cyngor i gyd wedi cyfrannu at wella ansawdd aer.

Mae tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor wedi gosod pum monitor amser real sy'n darparu data ar nitrogen deuocsid a gronynnau sydd yn ein hardaloedd rheoli ansawdd aer a'r cyffiniau. Mae'r data a gasglwyd o'r monitorau hyn ynghyd â'n rhwydwaith tiwb tryledu Nitrogen Deuocsid wedi dangos gwelliant parhaus yn yr ansawdd aer cyffredinol ac o ran cydymffurfio â'r Amcanion Ansawdd Aer Cenedlaethol. 

Gyda chefnogaeth ariannol grant Rheoli Ansawdd Aer Lleol Llywodraeth Cymru, mae swyddogion hefyd wedi cefnogi disgyblion ysgolion Sir Gaerfyrddin i gyflwyno ystod o fentrau a phrosiectau sy'n tynnu sylw at fanteision iechyd a llesiant aer glân. Gall llygredd aer gyfrannu at broblemau iechyd difrifol, a gall effeithio'n benodol ar y rhai mwyaf agored i niwed fel plant, pobl hŷn, a'r rhai sydd â chyflyrau ar y galon a'r ysgyfaint

Mae'r cynlluniau wedi cynnwys mynediad i 2,500 o ddisgyblion ysgolion cynradd i'r "traciwr teithio", ffordd hwyliog o roi bathodynnau am ddefnyddio dulliau di-fodur i gyrraedd yr ysgol. Mae hyn eisoes wedi arwain at 130,692 o deithiau’n cael eu cofnodi gan ddisgyblion y flwyddyn academaidd hon yn unig, monitro ansawdd aer amser real a phantomeim rhyngweithiol sydd wedi ymweld ag 20 ysgol i gyfathrebu sut y gallwn ni i gyd gyfrannu at aer glân ac amgylchedd iach.    

Mae'r Cyngor Sir hefyd yn parhau i sicrhau bod trigolion yn gallu mwynhau amgylchedd naturiol hardd y Sir gyda llwybrau cerdded a beicio yn cael eu diweddaru yn ogystal â phrosiectau newydd mawr fel Llwybr Dyffryn Tywi sef llwybr aml-ddefnydd llawn golygfeydd sy'n cysylltu Caerfyrddin a Llandeilo.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Rydym yn ffodus iawn ein bod yn byw mewn sir mor unigryw o brydferth, ac mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae wrth ddiogelu ein hamgylchedd er lles iechyd ein teuluoedd, ein cymdogion a'n cymunedau. Hoffwn ddiolch i swyddogion y Cyngor am y gwaith gwerthfawr maen nhw wedi bod yn ei gyflawni gyda'n hysgolion a rhanddeiliaid eraill.” 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Iechyd y Cyhoedd y Cyngor SCHPublichealth@sirgar.gov.uk