Sir Gaerfyrddin yn dathlu bod Cymru wedi cyrraedd UEFA EWRO Menywod 2025
3 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal dathliad cenedlaethol heddiw wrth i grys enfawr Cymru ddod i'r Clos Mawr, Caerfyrddin — fel rhan o Daith 'Ein Crys Cymru' Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy'n nodi bod Cymru wedi creu hanes drwy gyrraedd UEFA EWRO Menywod 2025. Mae'r digwyddiad ar agor tan 7pm heno, ac mae preswylwyr lleol, ysgolion a chefnogwyr pêl-droed yn cael eu hannog i ymuno â'r dathliadau a dangos eu cefnogaeth i dîm cenedlaethol y merched.
Mae'r crys chwyddadwy 4 metr o daldra yn symbol blaengar, amlwg o falchder Cymru, sy'n cynnwys y geiriau "EWRO 2025", gemau'r grŵp ar y blaen, a rhestr o'r garfan lawn swyddogol ar y cefn - a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar gopa'r Wyddfa i lansio'r daith genedlaethol.
Roedd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin; y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth; a'r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn gynharach heddiw i ddangos eu cefnogaeth a chael tynnu eu lluniau ar bwys y crys.
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae hwn yn ddiwrnod balch i Sir Gaerfyrddin ac yn ddathliad pwerus o ba mor bell mae pêl-droed merched yng Nghymru wedi dod. Mae 'Ein Crys Cymru' yn sefyll am fwy na chwaraeon yn unig, mae'n cynrychioli hunaniaeth, cydnabyddiaeth a chynnydd go iawn. Mae'n anrhydedd gennym groesawu'r daith i Gaerfyrddin a chefnogi ein tîm cenedlaethol."
Mae taith 'Ein Crys Cymru' yn anrhydeddu pwrpas uwch tîm merched Cymru: "I chwarae dros newid. I chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi". Mae'n adlewyrchu'r daith o fenthyg citiau dynion yn nyddiau cynnar y tîm i arddangos enwau chwaraewyr gyda balchder ar eu crysau eu hunain, carreg filltir a gyflawnwyd yn 2019 yn unig.
Fel rhan o'r dathliadau heddiw, ymwelodd ysgolion cynradd lleol a chlybiau pêl-droed merched â'r Clos Mawr trwy gydol y bore ac yn gynnar yn y prynhawn, i fwynhau gweithgareddau ar thema pêl-droed, lluniau tîm gyda'r crys, a'r cyfle i recordio negeseuon lwc dda i'r chwaraewyr.
Gall ymwelwyr hefyd gasglu cynllunydd wal EWRO 2025 am ddim yn y digwyddiad, gan eu helpu i ddilyn taith Cymru drwy'r twrnamaint, sy'n cychwyn ar 5 Gorffennaf yn Lucerne yn erbyn yr Iseldiroedd.
Bydd y daith yn parhau i ymweld â threfi a dinasoedd ledled Cymru cyn dod i ben yng Nghaerdydd ar ddiwrnod y gêm agoriadol.
Mae'r ffaith fod Ffion Morgan o Sir Gaerfyrddin yn y garfan genedlaethol yn golygu bod arwyddocâd arbennig i'r digwyddiad. Wedi'i geni yn Llandeilo, dechreuodd taith bêl-droed Ffion ar gaeau llawr gwlad Sir Gaerfyrddin gyda Thîm Iau Saron a Thîm Merched Rhydaman, ac mae bellach yn falch o gynrychioli Cymru a Dinas Bryste.
I ddathlu ei llwyddiannau ac i anrhydeddu ei lle yn hanes chwaraeon Cymru, mae crys Cymru swyddogol Ffion bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli. Mae'r crys yn rhan o arddangosfa Chwalu Ffiniau yr amgueddfa, sy'n rhedeg tan 19 Hydref 2025 ac yn dathlu menywod arloesol mewn chwaraeon.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae Ffion yn fodel rôl gwych i bobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Mae ei chynnwys yn y garfan genedlaethol yn gwneud y foment hon hyd yn oed yn fwy ystyrlon i'n cymunedau lleol."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: https://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2025/06/uefa-ewro-menywod/