Sir Gaerfyrddin yn anrhydeddu arwyr lleol yn seremoni Medal yr Ymerodraeth Brydeinig

28 diwrnod yn ôl

Marian Louise Evans yn derbyn Medal Ymerodraeth Prydain gan Raglaw Ei Mawrhydi dros Ddyfed, Miss Sara Edwards, yn ystod seremoni arbennig yn Neuadd y Sir ar 29 Mai.

Cynhaliwyd seremoni gyflwyno arbennig yn Neuadd y Sir ar 29 Mai i anrhydeddu dau unigolyn nodedig sydd wedi derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig (BEM) i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gadeirydd newydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Dot Jones, yn nodi ei digwyddiad swyddogol cyntaf ac fe'i mynychwyd gan Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi Dyfed, Miss Sara Edwards, a gyflwynodd yr anrhydeddau ar ran Ei Fawrhydi y Brenin.

Mae Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, a sefydlwyd gyntaf ym 1917 ac a ailgyflwynwyd yn 2012, yn cydnabod unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau ymarferol, effeithiol i'w cymunedau. Daw enwebiadau yn uniongyrchol gan y bobl sy'n dyst i'r cyfraniadau hyn bob dydd; cydweithwyr, cymdogion a ffrindiau, gan wneud yr anrhydedd yn bersonol ac ystyrlon.

Cafodd Mrs Marian Louise Evans ei chydnabod am wasanaethau i fusnesau. Fel sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Elevate Business Consultancy, mae Mrs Evans wedi cyflawni newid trawsnewidiol ar draws y sector. Fel gweithiwr proffesiynol sydd wedi ennill sawl gwobr, mae hi wedi cael ei chydnabod yn eang am ei harweinyddiaeth, yn enwedig wrth hyrwyddo menywod mewn busnes. Yn ystod pandemig COVID-19, cynigiodd gefnogaeth hanfodol i dros 2,000 o fusnesau trwy sesiynau gwytnwch am ddim a chynnwys ar-lein, gan gyrraedd dros 300,000 o bobl bob mis. Mae ei gwaith gwirfoddol wedi ennill teitlau fel Mentor y Flwyddyn y DU a Menyw Ysbrydoledig y Degawd iddi. Derbyniodd ei medal gan yr Arglwydd Raglaw a chyflwynwyd blodau iddi ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin gan yr Arglwydd Raglaw Cadetiaid Chloe Faulkner.

Derbyniodd Miss Judith Harvey Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ar ôl dechrau ei gyrfa fel un o wardeiniaid benywaidd cyntaf y DU, mae hi wedi ymroi ei bywyd i gadwraeth, rheoli tir ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr amgylcheddol. Fel Prif Warden ers 2012, mae Miss Harvey wedi mentora prentisiaid a gwirfoddolwyr di-ri, wedi arwain prosiectau adfer sylweddol ac wedi gweithio'n angerddol i ddiogelu ecosystemau a threftadaeth y parc. Cyflwynwyd ei medal iddi gan yr Arglwydd-Raglaw a blodau gan yr Arglwydd-Raglaw Cadet Zuzzana Radkowska, cyn annerch y gynulleidfa mewn araith deimladwy.

Wrth gloi'r seremoni, canmolodd Cadeirydd y Cyngor y ddau dderbynnydd am eu gwasanaeth a myfyriodd ar bwysigrwydd modelau rôl mewn bywyd cyhoeddus, yn enwedig i fenywod a merched. Nododd bresenoldeb cynyddol menywod mewn rolau arweinyddiaeth, ynghyd â chydnabod bod yn rhaid i gynnydd barhau ar bob lefel o ddemocratiaeth leol. Mae eu llwyddiannau, meddai, yn gosod sylfaen gadarn i eraill ei ddilyn.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu:

Mae'r gwobrau hyn yn dyst go iawn i bŵer gweithredu ac arweinyddiaeth leol. Mae Marian a Judith yn ysbrydoliaeth ac yn esiampl o bobl sy'n ymroi. Rydym yn falch o ddathlu eu llwyddiant a'r esiampl maen nhw'n ei osod i eraill yn ein cymunedau."