Siopau sionc creadigol yn bywiogi YMCA Llanelli

2 diwrnod yn ôl

Fel arbenigwyr blaenllaw mewn defnyddio mannau defnydd yn y cyfamser, mae Urban Foundry wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i drawsnewid adeilad YMCA Llanelli drwy gyfres o siopau sionc creadigol.

Mae'r unedau newydd yn yr YMCA wedi creu platfform i bobl greadigol ac entrepreneuriaid lleol brawf-fasnachu, cysylltu â chynulleidfaoedd newydd, a meithrin eu hyder busnes mewn lleoliad cefnogol.

Mae'r prosiect wedi defnyddio tair uned - Unedau 1, 3, a 4 - gyda masnachwyr ac artistiaid creadigol, gan roi lle iddyn nhw arddangos eu gwaith, cysylltu â'r gymuned, a thyfu eu busnesau.

Cariad Love

Mae Sophie Powell o Cariad Love yn wneuthurwr gemwaith ifanc talentog sydd wedi treulio'r 18 mis diwethaf yn gwerthu ei darnau wedi'u gwneud â llaw mewn marchnadoedd lleol. Dyma ei symudiad cyntaf i leoliad masnachol, ac mae eisoes yn profi i fod yn llwyddiannus. Mae Sophie nawr wedi cael yr uned ar osod am gyfnod hirach, sydd yn gam mawr ymlaen yn ei thaith fusnes. Sophie Powell, Gwneuthurwr Gemwaith, Cariad Love:

Mae wedi bod yn anhygoel cael gofod siop go iawn i arddangos fy ngemwaith. Cefais hyd yn oed rywun yn comisiynu modrwy i'w defnyddio fel modrwy briodas - mae'n gymaint o hwb i hyder.

Gwydr Jo Partridge

Mae Jo Partridge, sy'n wyneb cyfarwydd ym Marchnadoedd Stryd Bae Abertawe Urban Foundry, hefyd yn gwerthu ei gwaith ac yn awyddus i gynnal gweithdai gwydr bob dydd Sadwrn yn Uned 3. Gall cyfranogwyr greu eu darnau gwydr eu hunain, ac wedyn bydd Jo yn eu tanio yn ei odyn yn barod i'w casglu yr wythnos ganlynol. Jo Partridge, Artist Gwydr, Jo Partridge Glass:

Mae'n ffordd wych o gael pobl i ddefnyddio'r lle. Rwyf wrth fy modd yn gweld pobl yn gadael gyda rhywbeth maen nhw wedi'i greu eu hunain hefyd.

Ar ôl cyfnod prawf llwyddiannus, mae Jo wedi ymestyn ei harhosiad tan ddiwedd mis Mai.

Hannah Davies

Mae Hannah Davies, yr artist cain a'r dylunydd mewnol pensaernïol (sydd hefyd yn aelod cyswllt yn Urban Foundry!), yn arddangos ei darnau olew ar gynfas yn Uned 4. Mae'r arddangosfa yn cynnwys rhai o'i gweithiau diweddaraf. Mae Hannah hefyd yn fam i Makenzy Beard, artist ifanc y mae ei gwaith wedi ennill sylw byd-eang. Hannah Davies, Aelod Cyswllt, Urban Foundry:

Mae wedi bod yn wych rhannu fy ngwaith celf mewn lleoliad mor hyfryd. Rydw i wedi cael adborth hyfryd, ac mae'n braf iawn cwrdd â phobl a sgwrsio am fy ngwaith, a chelf yn gyffredinol.

Ymweliad Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin

Aeth Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, ar daith o amgylch y prosiect siopau sionc gyda chynrychiolwyr allweddol o Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Roedd cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru yn cynnwys:

Nick Williams, Cyfreithiwr Masnachol
Jonathan Baxter, Uwch-swyddog Ymchwil

Roedd cynrychiolwyr Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnwys:

Y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin

Wendy Walters, Prif Weithredwr
Y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth
Stuart Walters, Pennaeth Datblygu Economaidd
Tessa Bufton, Rheolwr Adfywio Canol Trefi

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans:

Mae prosiectau fel hyn yn dod ag egni ffres i ganol trefi, gan dynnu sylw at fusnesau lleol. Mae siopau sionc yn ffordd wych o adfywio'r stryd fawr. Yn Llanelli mae'r siopau sionc hyn nid yn unig yn fodd o ysgogi'r economi, maen nhw hefyd yn ffordd strategol o gynyddu nifer yr ymwelwyr, yn cefnogi entrepreneuriaeth, ac yn ailfywiogi'r stryd fawr. Mae'r unedau yn yr hen YMCA yn rhan o ddatblygiadau ehangach Cyngor Sir Caerfyrddin yng nghanol y dref sy'n cynnwys gwella'r defnydd o safleoedd gwag a safleoedd sydd heb fod yn cael eu defnyddio yng nghanol y dref, ac mae wedi cael eu hariannu'n rhannol gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Tara Tarapetian, Cyfarwyddwr, Urban Foundry:

Mae wedi bod yn wych gweld effaith y siopau sionc hyn, nid yn unig i'r masnachwyr, ond i'r gymuned gyfan. Rydym bob amser yn ymwybodol o effaith economaidd siopau sionc, ond mae hyn hefyd yn ymwneud ag effaith ddiwylliannol – cefnogi busnesau bach yn y sector creadigol. Mae hynny'n bwysig iawn i ni. Mae yna fwrlwm go iawn o gwmpas adeilad yr YMCA nawr.  

Llwyddiant siopau sionc  

Mae hyn yn dod â chyfanswm Urban Foundry i 81 o siopau sionc ar draws y prosiect cyfan a gwahanol awdurdodau lleol – tyst i ba mor drawsnewidiol y gall y mentrau hyn fod i fusnesau lleol a'r gymuned.

Mae effaith y siopau sionc hyn yn fawr.  I'r masnachwyr, mae'n gyfle i dreialu syniadau newydd, cynyddu eu cwsmeriaid, a chael y profiad o redeg siop heb yr ymrwymiad hirdymor (a'r tâp coch a'r costau). Mae hyn yn dod ag ymwelwyr yn ôl i ganol y dref, yn adfywio llefydd gwag, yn dangos bod modd defnyddio llefydd at ddibenion eraill ac yn adeiladu hyder yn y stryd fawr.