Cyfleoedd grant cyffrous ar gael i adfywio canol trefi Sir Gaerfyrddin
6 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn galw ar berchnogion a lesddeiliaid eiddo lleol i fanteisio ar ddau gynllun cyllido hael gyda'r nod o roi bywyd newydd i ganol trefi ledled y sir. Gyda grantiau ar gael tan 30 Medi 2025, dyma gyfle unigryw i wella tu blaen eiddo ac ailddefnyddio mannau masnachol gwag.
Mae'r Gronfa Adnewyddu Canol Trefi yn cynnig hyd at £2,000 fesul eiddo, tuag at 80% o'r costau cymwys, i wella tu blaen siopau a gwneud canol trefi yn fwy deniadol. Gall rhydd-ddeiliaid a lesddeiliaid eiddo yng nghanol trefi Sir Gaerfyrddin wneud cais am gyllid i gefnogi amrywiaeth o welliannau gan gynnwys:
• Addurno allanol
• Paentio
• Gosodiadau goleuadau
• Glanhau cwteri a mwy
Drwy wella golwg eiddo masnachol, nod y gronfa hon yw creu strydoedd mwy deniadol a chroesawgar sydd o fudd i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Mae’r Gronfa Bywiogrwydd Canol Trefi yn cefnogi'r gwaith o adfywio eiddo masnachol gwag ar y llawr gwaelod yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Mae grantiau o rhwng £5,000 a £50,000 ar gael, a hynny ar gyfradd ymyrryd o hyd at 70% o gostau prosiect cymwys. Mae'r gronfa yn galluogi perchnogion a lesddeiliaid eiddo i ddefnyddio mannau gwag at ddibenion masnachol unwaith eto, boed hynny drwy agor busnes newydd, ehangu busnes presennol, neu roi pwrpas newydd i uned wag. Mae'r cyllid hwn yn darparu cyfraniad ariannol sylweddol i helpu i adfywio canol trefi Sir Gaerfyrddin a sicrhau eu bod yn gynaliadwy.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Twristiaeth a Hamdden:
Mae canol ein trefi wrth galon ein cymunedau, ac mae'r grantiau hyn yn cynnig cyfle gwirioneddol i fusnesau a pherchnogion eiddo fuddsoddi yn eu dyfodol. Drwy wella tu blaen siopau ac ailddefnyddio eiddo gwag, rydyn ni'n helpu i greu lleoedd mwy bywiog, croesawgar sy'n cefnogi busnesau lleol ac yn denu ymwelwyr. Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio'n llawn ar y cyfle hwn."
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i fod yn rhan o'r gwaith o drawsnewid canol trefi Sir Gaerfyrddin.
I gael manylion llawn ac i wneud cais ewch i:
🔗 Cronfa Adnewyddu Canol Trefi
🔗 Cronfa Bywiogrwydd Canol Trefi
📧 Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â: trefi@sirgar.gov.uk