Ein trefi gwledig: Castellnewydd Emlyn

4 diwrnod yn ôl

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mae trefi marchnad gwledig ar draws y sir wedi cael cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydyn ni'n canolbwyntio ar Gastellnewydd Emlyn, ac yn edrych ar sut mae'r dref wedi elwa ar gyllid drwy Gyngor Sir Caerfyrddin a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae Castellnewydd Emlyn, sydd rhwng Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, yn dref farchnad draddodiadol sy'n gwasanaethu ardal wledig eang ar draws Sir Gaerfyrddin a Cheredigion. Mae'n gartref i gyflogwyr mawr fel Dairy Partners ac amrywiaeth o fusnesau ym maes biotechnoleg, TG, adeiladu, peirianneg ac amaethyddiaeth gan chwarae rhan allweddol yn yr economi leol. Mae hefyd yn cynnal gwasanaethau pwysig gan gynnwys ysgol uwchradd a chanolfan hamdden, ac felly mae'n ganolfan ganolog ar gyfer addysg, cyflogaeth a bywyd cymunedol. I ddysgu rhagor am Gastellnewydd Emlyn fel cyrchfan, ewch i Darganfod Sir Gâr.

Mae'r rhaglen Deg Tref yn cefnogi'r gwaith o adfer adeilad rhestredig Gradd II Hengwrt, sef hen lys y dref. Mae'r adeilad hwn wedi bod yn wag ers 2019 ac mae bellach wedi'i drawsnewid yn ganolfan gymunedol fywiog sy'n cynnig lle ar gyfer digwyddiadau, gwasanaethau a gweithgareddau lleol.

Fel rhan o'r rhaglen Deg Tref, rhoddwyd cymorth ariannol i gynnal Pencampwriaethau Prawf Amser a Rasio Ffordd Iau Cenedlaethol Beicio Prydain yng Nghastellnewydd Emlyn ym mis Mehefin 2024. Llwyddodd y digwyddiad chwaraeon mawr hwn i ddenu sylw o bob rhan o'r wlad, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr â'r dref a rhoi hwb sylweddol i fusnesau lleol. I sicrhau bod digwyddiadau yn y dyfodol yn gynaliadwy, rhoddwyd cyllid ychwanegol i brynu offer pwrpasol ar gyfer digwyddiadau, gan alluogi’r dref i gynnal mwy o ddigwyddiadau cymunedol a thwristiaeth.

Yn ogystal, o dan Gronfa Ddigwyddiadau y Deg Tref, cafodd Cydweithfa Gymunedol Castellnewydd Emlyn a'r Cyffiniau gefnogaeth ar gyfer ei digwyddiad Miwsig yn y Parc yn yr haf. Roedd y digwyddiad yn cynnwys cymysgedd bywiog o berfformwyr lleol, gweithgareddau addas i deuluoedd, a stondinau cymunedol, gan ddenu torfeydd mawr ac arddangos ysbryd creadigol y dref.

Mae Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn wedi llwyddo i dderbyn cyllid drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin i gefnogi'r gwaith o ddatblygu amffitheatr 88 sedd yng nghanol y dref. Bydd y datblygiad yn denu ymwelwyr ychwanegol i'r dref, yn ogystal â darparu cyfleuster i bobl leol ei ddefnyddio a mwynhau amrywiaeth o berfformiadau theatrig a cherddoriaeth fyw. Disgwylir i'r gwaith gymryd 3 mis a chael ei gwblhau ym mis Chwefror 2026.

Mae'r Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig wedi cefnogi gwelliannau i sawl adeilad ar y stryd fawr, gan helpu i adnewyddu blaen siopau a bywiogi canol y dref. Yn ogystal, mae Steve Jenkins, yr artist stryd adnabyddus o Sir Gaerfyrddin, wedi creu murlun trawiadol yn y dref. Mae'r gwaith celf yn dangos hanes unigryw Castellnewydd Emlyn, sy'n cynnwys ei farchnad da byw draddodiadol a chastell canoloesol y dref, ac mae wedi cael croeso cynnes gan bobl leol ac ymwelwyr.

Mae gwelliannau hefyd wedi'u gwneud i Stryd y Sycamorwydden drwy'r Gronfa Mynd i'r Afael â Threfi gan gynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd. Mae hyn wedi gwneud yr ardal yn fwy deniadol sy'n cyd-fynd â chymeriad hanesyddol y dref ac yn gwella hygyrchedd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Drwy Gronfa Economi Gylchol y Deg Tref, mae'r grŵp lleol Cadernid Emlyn wedi sefydlu canolfan economi gylchol, gan annog cynaliadwyedd a rhannu adnoddau yn y gymuned.

Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Caerfyrddin, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr profiadol Hwb helpu preswylwyr Sir Gaerfyrddin gyda'u hymholiadau yn ymwneud â'r Cyngor a darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu yn ogystal ag eitemau Tlodi Mislif. Ochr yn ochr â hyn, gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor sy'n gallu cynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau. 

Bydd Hwb Bach y Wlad yn Neuadd Cawdor yng Nghastellnewydd Emlyn ar ddydd Mercher cyntaf y mis rhwng 10am a 2pm. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/hwb-bach-y-wlad/ 

Bydd y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes nesaf yn mynd i Neuadd Cawdor yng Nghastellnewydd Emlyn ar ddydd Iau 26 Mehefin ,gan roi cyfle i fusnesau a grwpiau cymunedol gwrdd â swyddogion y Cyngor Sir. Bydd cyngor ar gael ar bob agwedd ar y sector twristiaeth a busnes; gan gynnwys trwyddedu, cynllunio, opsiynau ariannu, grantiau sydd ar gael ar hyn o bryd i fusnesau, yn ogystal â chymorth marchnata.

Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:

Mae trawsnewid go iawn yn digwydd yng Nghastellnewydd Emlyn yn sgil y Rhaglen Deg Dref a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. O gefnogi digwyddiadau lleol i adfer adeiladau hanesyddol, mae'r buddsoddiadau hyn yn helpu'r dref i ffynnu. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at weld sut y bydd yr amffitheatr newydd yn dod â chyffro, ymwelwyr, a phrofiadau diwylliannol newydd i'r dref.”

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 10 Tref, ewch i'r wefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/deg-tref/castellnewydd-emlyn/