Diweddariad ar Bwll Nofio Canolfan Hamdden Caerfyrddin

1 diwrnod yn ôl

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar raglen cynnal a chadw ac adnewyddu'r pwll nofio yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin yn mynd rhagddo, ond mae problemau annisgwyl a ddaeth i’r amlwg yn ystod y gwaith cloddio a gosod wyneb newydd ar lawr y prif bwll yn golygu bod angen mwy o waith nag yr oedd wedi'i ddisgwyl yn wreiddiol. Mae hyn wedi arwain at oedi o ran y prosiect. 

Yn anffodus, ni fydd y pwll yn ailagor ym mis Gorffennaf fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Mae’r Cyngor Sir yn gwerthfawrogi bod hyn yn newyddion mor siomedig i breswylwyr a chwsmeriaid, ond mae'n hollbwysig ein bod yn darparu pwll sy'n ddiogel, o ansawdd uchel, ac wedi'i adeiladu i bara ymhell i'r dyfodol. Mae'r gwaith ychwanegol yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cwrdd â'r safon hon. 

Mae paratoadau i leinio'r pwll 25m bellach ar waith, ac mae'r rhan fwyaf o'r pwll dysgwyr eisoes wedi'i gwblhau. Byddwn yn rhannu manylion pellach ddydd Iau 10 Gorffennaf, pan fyddwn yn gobeithio cadarnhau dyddiad ailagor pendant. 

Nid oes angen gwsmeriaid wneud unrhyw beth – os yw eu haelodaeth wedi cael ei rhewi neu os oes gostyngiad (yn cynnwys Dysgu Nofio) bydd yn parhau'n awtomatig tan 31 Gorffennaf.  

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin yn cael ei diweddaru ar wefan Actif Cyngor Sir Caerfyrddin i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau a defnyddwyr.  https://actif.wales/blog/swimming-pool-at-carmarthen-leisure-centre-to-close-for-essential-repair-works

 Dymuna Cyngor Sir Caerfyrddin ddiolch am i breswylwyr a chwsmeriaid am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni gwblhau'r gwaith pwysig hwn.