Dathlu gwirfoddolwyr chwaraeon Sir Gâr
58 diwrnod yn ôl

Fel rhan o ddathliadau Wythnos Gwirfoddoli eleni, mae Cyngor Sir Gâr yn cydnabod cyfraniadau gwirfoddolwyr chwaraeon lleol sy'n mynd yr ail filltir i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.
Dewch i gwrdd â rhai o'r gwirfoddolwyr sy'n gwneud gwahaniaeth mewn chwaraeon cymunedol, mae eu hymroddiad yn enghraifft o'r ysbryd cymunedol arbennig a geir yn Sir Gâr:
Clark Hartnell – Clwb Rygbi Llangennech
Er nad yw ei blentyn ei hun bellach yn cymryd rhan, mae Clark yn parhau i roi amser, egni ac angerdd i Glwb Rygbi Llangennech. Fel trysorydd, mae'n delio â'r materion ariannol ac yn trefnu'r holl ymdrechion codi arian. Mae'n gweithredu fel cyswllt rhwng y timau hŷn ac iau ac mae'n allweddol wrth drefnu digwyddiadau, gan gynnwys y noson tân gwyllt flynyddol, sy'n denu dros 1,000 o aelodau. Mae Clark hefyd yn rheoli cyflenwadau'r siop fwyd wythnosol, yn cydlynu tlysau ar gyfer cyflwyniadau, yn goruchwylio cyllid ar gyfer teithiau, ac yn trefnu cyrsiau hyfforddi ar gyfer hyfforddwyr. Er ei fod yn gweithio i ffwrdd drwy'r wythnos ac yn cydbwyso bywyd teuluol, mae'n neilltuo amser ac egni diddiwedd i'r clwb. Gwir glod i'w deulu a'r gymuned.
Dave Pallot – Clwb Criced Rhydaman
Am y saith mlynedd diwethaf, mae Dave wedi bod yn arwain y rhaglen griced iau yng nghlwb Criced Rhydaman yn llwyddiannus, gan oruchwylio 11 o dimau bechgyn, dau dîm merched, a rhaglen All Stars ar gyfer plant 4-8 oed. Mae'n cydlynu hyfforddwyr a rheolwyr tîm i drefnu hyfforddiant y gaeaf a'r haf, gemau cynghrair a chwpan, ac yn sicrhau bod gofynion cit, aelodaeth a chymorth cyntaf yn cael eu bodloni. Mae hefyd yn cynrychioli'r adran iau yng nghyfarfodydd y clwb ac yn mynychu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cynghrair Criced Iau De Cymru. Mae ymroddiad Dave yn cefnogi adran fwyaf, a mwyaf prysur y clwb, gan ymgysylltu â thros 140 o chwaraewyr iau ar draws 135 o gemau a 360 o oriau hyfforddi bob blwyddyn - sy'n cyfateb i oddeutu 9,000 awr o weithgarwch, gan effeithio'n gadarnhaol ar iechyd cymunedol.
Ann Ivey – Clwb Merlod Dyffryn Aman
Mae Ann wedi rhoi dros 20 mlynedd a mwy i Glwb Merlod Dyffryn Aman, gan wasanaethu fel Comisiynydd Rhanbarth a threfnu gweithgareddau wythnosol ar gyfer mwy na 50 o aelodau. Mae Ann yn angerddol am hyrwyddo cynhwysiant, ac mae'n sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, beth bynnag yw lefel ei sgiliau. Mae ei harweinyddiaeth wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu marchogwyr sydd wedi mynd ymlaen i gynrychioli Cymru a Phrydain Fawr, gan gynnwys pencampwyr y byd. Y llynedd arweiniodd ymgyrch lwyddiannus iawn, gan godi dros £20,000 i gefnogi taith y tîm Gemau ar Geffylau i gystadlu yn Sioe Geffylau'r Flwyddyn. Ar y cyd a'i rôl heriol fel athrawes fioleg lawn amser a chydlynydd Dug Caeredin, mae Ann yn parhau i roi amser, egni ac arbenigedd i'r clwb, gan ysbrydoli pobl ifanc a chryfhau'r ymdeimlad o gymuned drwy ei gwaith diflino.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod chwaraeon yn parhau i fod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn hwyl i bawb yn Sir Gâr. Mae gwaith anhygoel gwirfoddolwyr ledled y Sir yn dangos faint y gellir ei gyflawni trwy ymroddiad ac ysbryd cymunedol.”
Mae Platfform Gwirfoddoli Actif yn cysylltu unigolion â chyfleoedd gwirfoddoli ar draws chwaraeon a hamdden yn Sir Gaerfyrddin. Mae hefyd yn adnodd gwerthfawr i glybiau a sefydliadau sy'n chwilio am gefnogaeth. P'un a ydych chi eisiau rhoi eich amser neu ddod o hyd i help i'ch grŵp, mae'r platfform yn ei gwneud hi'n hawdd cymryd rhan.
Rhagor o fanylion: Actif - Gwirfoddoli