Dathlu gwirfoddolwyr Ceir Cefn Gwlad Sir Gaerfyrddin

1 diwrnod yn ôl

Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn tynnu sylw at rôl hanfodol Ceir Cefn Gwlad, cynllun rhannu car cymunedol sydd wedi'i ddarparu gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ar ran y Cyngor. Wedi'i gynnal gan wirfoddolwyr lleol ymrwymedig, mae'r cynllun yn darparu trafnidiaeth hanfodol ar gyfer preswylwyr a fyddai fel arall yn ei chael hi'n anodd teithio'n lleol i ddefnyddio gwasanaethau allweddol ac aros yn annibynnol. 

Mae Reg wedi bod yn wirfoddolwr ers 15 mlynedd ac mae'n cael llawenydd mawr yn y cysylltiadau personol y mae'n eu meithrin ar bob taith.

Rwy'n mwynhau'r sgyrsiau ryw'n eu cael gyda theithwyr, mae gan bawb stori i'w hadrodd, o straeon am godro gwartheg i fod y darlithydd benywaidd cyntaf yng Ngholeg y Drindod. Mae'n hynod foddhaol gweld sut y gall fy ngweithred fach o garedigrwydd olygu cymaint i rywun arall."

I Gwenda, ffermwr wedi ymddeol a threfnydd ardal, mae gwirfoddoli wedi ei helpu i aros yn weithgar yn gymdeithasol tra'n gwneud gwahaniaeth yn lleol.

Cyn dod yn wirfoddolwr, byddai wythnosau'n mynd heibio lle na fyddwn i'n gweld unrhyw un - nawr mae gen i'r cyfle i gymdeithasu a gweld pobl yn rheolaidd,” 

Ychwanegodd:

Y rhan orau o wirfoddoli yw cwrdd â phobl newydd a gweld pobl nad ydw i wedi'u gweld ers blynyddoedd. Mae fy nheithwyr bob amser yn dweud, 'Byddwn i ar goll hebddoch chi', mae'n rhoi boddhad mawr."

P'un a yw'n gyrru, yn cydgysylltu teithiau, neu'n cefnogi'r tîm, mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl yn ein cymuned bob dydd.

Dywedodd Shirley, sy'n cydgysylltu teithiau fel trefnydd ardal, fod gwirfoddoli wedi bod yn drawsnewidiol iddi, yn enwedig ar ôl colli ei gŵr:

Gyda theulu yn bell i ffwrdd, mae helpu eraill wedi rhoi ymdeimlad o bwrpas a chysylltiad i mi.” 

Darllenwch fwy am straeon ysbrydoledig ein gwirfoddolwyr yma: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/priffyrdd-teithio-a-pharcio/ceir-cefn-gwlad/astudiaethau-achos-ceir-cefn-gwlad/

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas:

Mae gwirfoddoli gyda Ceir Cefn Gwlad yn ymwneud â gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl. I lawer o breswylwyr, mae'r gwasanaeth hwn yn hanfodol ar gyfer apwyntiadau, gwasanaethau a chysylltiad cymdeithasol. Gall ychydig oriau o'ch amser roi annibyniaeth a thawelwch meddwl i rywun. Os ydych chi eisiau cael effaith go iawn, parhaus ar eich cymuned, rwy'n eich annog chi'n gryf i fod yn rhan."

Mae'r cynllun Ceir Cefn Gwlad yn dibynnu ar wirfoddolwyr o bob rhan o'r sir. Os ydych chi wedi'ch ysbrydoli i wirfoddoli, gallwch chi gofrestru yma: Ffurflen gofrestru gwirfoddolwyr

Dysgwch ragor am y cynllun yma: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/priffyrdd-teithio-a-pharcio/ceir-cefn-gwlad/