Datgan Parc Natur Ynysdawela yn warchodfa natur leol

8 diwrnod yn ôl

Mae Parc Natur Ynysdawela, Brynaman Uchaf, wedi'i ddatgan yn Warchodfa Natur Leol. Dyma'r seithfed Warchodfa Natur Leol yn Sir Gaerfyrddin lle mae rhai o'r cynefinoedd bywyd gwyllt a'r coetiroedd heddychlon gorau yng Nghymru.

Mae'r penderfyniad pwysig hwn, a gafodd ei gymeradwyo gan y Cabinet ar 16 Mehefin 2025, yn cydnabod bioamrywiaeth gyfoethog a gwerth amgylcheddol sylweddol Ynysdawela yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac, yn achos rhai rhywogaethau, hyd yn oed yn rhyngwladol.

Yn dilyn arolygon ecolegol a buddsoddiad sylweddol drwy Grant Buddsoddi mewn Coetir Llywodraeth Cymru, dangoswyd bod y safle 16.5 hectar yn cefnogi amrywiaeth eithriadol o fywyd gwyllt, sy'n cynnwys poblogaethau pathew'r cyll a britheg y gors, sydd wedi'u gwarchod o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r safle hefyd yn gartref i naw rhywogaeth o ystlumod, 64 rhywogaeth o infertebratau sydd o bwysigrwydd cadwraeth, a dwy rywogaeth o infertebratau nad ydyn nhw erioed wedi'u cofnodi o'r blaen yng Nghymru.

Mae Parc Natur Ynysdawela yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru ac mae'n cynnwys cymysgedd unigryw o goetir lled-naturiol hynafol, ardaloedd sborion glo sydd wedi'u hadfywio a hen dir fferm, gan gynnig gwerth o safbwynt addysg, hamdden a chadwraeth. Mae'r ardal eisoes yn cael ei defnyddio'n helaeth gan ysgolion a'r gymuned leol yn Nyffryn Aman.

Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i gael rhagor o wybodaeth am fannau gwyrdd a gerddi'r sir.

Mae'r datganiad hwn hefyd yn cyd-fynd â Strategaeth Coed a Choetir Sir Gaerfyrddin (2025), sy'n hyrwyddo mynediad cyfrifol wrth ddiogelu ecosystemau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Eans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: 

“Mae Ynysdawela yn enghraifft werthfawr o sut y gallwn ni amddiffyn a dathlu ein treftadaeth naturiol wrth ddarparu mannau ystyrlon i bobl gysylltu â natur.
Bydd datgan Ynysdawela yn Warchodfa Natur Leol yn cryfhau ein hymrwymiad i fioamrywiaeth, gweithredu er budd yr hinsawdd a llesiant cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin.”

Mae Parc Natur Ynysdawela yn cael ei gydnabod fel Gwarchodfa Natur Leol o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.

Mae saith Gwarchodfa Natur Leol yn Sir Gaerfyrddin: Parc Natur Ynysdawela, Brynaman Uchaf; Twyni Tywod a Morfa Pen-bre; y Pwll Lludw a Merllyn y Pwll; Twyni Doc y Gogledd; Carreg Cennen; Glan-yr-Afon, Cydweli; a Morfa Berwig, y Bynea. Hefyd mae nifer o warchodfeydd natur ar hyd a lled y sir sy'n cael eu rheoli gan sefydliadau eraill.