Cyngor yn cynnal Digwyddiad Partneriaeth i drechu tlodi
37 diwrnod yn ôl
Ddydd Mercher, 12 Mehefin, croesawodd Cyngor Sir Caerfyrddin bartneriaid allweddol i Ddigwyddiad Partneriaeth unigryw, yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin, i ganolbwyntio ar ymrwymiad ar y cyd i drechu tlodi ledled y sir.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ystyried llwyddiant y rhaglen Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, sef menter dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n cynnig cefnogaeth a chyngor i drigolion Sir Gaerfyrddin sy'n wynebu anawsterau costau byw.
Aeth y cynrychiolwyr yn y digwyddiad partneriaeth ati i drafod yr hyn sydd wedi gweithio'n dda yn ystod 18 mis diwethaf y cynllun, yr heriau sydd wedi'u hwynebu, yr heriau sydd o'n blaenau, a sut y gall parhau i weithio gyda'n gilydd wella'r rhaglen Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi, er budd trigolion Sir Gaerfyrddin.
Roedd trafodaethau bord gron rhyngweithiol yn rhoi cyfle i'r rhai oedd yn bresennol rannu mewnwelediadau, edrych ar gyfleoedd newydd ar gyfer partneriaeth, a thynnu sylw at y gefnogaeth y mae ei hangen oddi wrth y Cyngor i barhau i gael effaith gadarnhaol ar draws cymunedau yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ystod y 18 mis diwethaf mae tîm penodol y Cyngor o ymgynghorwyr Hwb wedi helpu 5,745 o bobl, a gafodd eu cyfeirio i'w wasanaeth, i hawlio dros £7.5m mewn taliadau cymorth a budd-daliadau. Mae ymgynghorwyr Hwb wedi cefnogi ceisiadau am nifer o gynlluniau cymorth gan y Cyngor a thrydydd partïon. Ymhlith y rhain mae bathodynnau glas ar gyfer parcio i bobl anabl, gostyngiadau ar y dreth gyngor, taliadau annibyniaeth personol, a grantiau i helpu rhieni i brynu hanfodion ysgol, fel gwisg ysgol.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn diolch yn ddiffuant i'r holl bartneriaid ac yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol.
I gael mynediad i Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi:
Ewch ar-lein - drwy fynd i dudalen Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi y Cyngor, lle gallwch gael gwybodaeth am amrywiaeth eang o gynlluniau cymorth neu drefnu siarad ag ymgynghorydd.
Ewch i un o'n Canolfannau HWB - yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman a siaradwch ag un o'n hymgynghorwyr HWB cyfeillgar.
Hwb Bach y Wlad - Fel estyniad o'r tair prif ganolfan Hwb, mae Hwb Bach y Wlad yn dod â gwasanaethau cwsmeriaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn uniongyrchol i ardaloedd gwledig.
Ffoniwch ein Canolfan Gyswllt – Gall cwsmeriaid sydd am Atgyfeiriad 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi' ffonio 01267 234567, dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am - 6:00pm.