Cyfleusterau Cawodydd a Thoiledau Newydd a Lleiniau Trydan Talu-wrth-Ddefnyddio wedi'u hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin

13 diwrnod yn ôl

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn falch o gyhoeddi agoriad cyfleusterau cawodydd a thoiledau newydd o'r radd flaenaf, ynghyd â lleiniau trydan talu-wrth-ddefnyddio sy'n cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. 
Mae'r datblygiad hwn yn nodi gwelliant sylweddol i'n cyfleusterau ar gyfer gwersyllwyr, gan ddarparu gwell cyfleusterau a chyfleustra i’r holl ddefnyddwyr.
Mae Parc Gwledig Pen-bre Cyngor Sir Caerfyrddin wedi defnyddio'i gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin i fuddsoddi mewn cyfleusterau cawodydd a thoiledau newydd o'r radd flaenaf, ynghyd â lleiniau trydan arloesol talu-wrth-ddefnyddio yn y safle gwersylla. 
Manylion am y Cyfleusterau
Mae'r cyfleusterau cawodydd a thoiledau newydd wedi'u cynllunio gyda nodweddion modern, ecogyfeillgar i sicrhau safon uchel o hylendid a chynaliadwyedd. Mae'n cynnwys:
• Cawodydd mawr gyda thymheredd dŵr y gellir ei reolir
• Toiledau hygyrch gyda systemau glanweithdra gwell
• Goleuadau ac awyru ynni-effeithlon
• Gosodiadau arbed dŵr
Lleiniau Trydan 
Mae'r lleiniau trydan talu-wrth-ddefnyddio yn cynnig ateb hyblyg a chost-effeithiol i ymwelwyr sydd angen mynediad at drydan. Mae'r lleiniau hyn yn cynnwys:
• Pwyntiau trydan diogel
• System dalu hawdd ei defnyddio
• Monitro defnydd amser real
• Ffynonellau pŵer sy'n gydnaws â'r amgylchedd 
Cwblhawyd y ddau brosiect gan fusnesau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth: 
Rydym wrth ein bodd i weld y cyfleusterau hyn yn cael eu cwblhau a byddant o fudd mawr i'r gymuned. Fel Awdurdod Lleol, ein nod yw cefnogi prosiectau sy'n hyrwyddo cynaliadwyedd ac sy’n gwella ansawdd ac mae'r fenter hon yn cyd-fynd yn berffaith â'r genhadaeth honno. Bydd y cyllid yn galluogi i Barc Gwledig Pen-bre ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal, rhoi hwb i dwristiaeth leol, a darparu profiad mwy pleserus i wersyllwyr."
Disgwylir i'r cyfleusterau newydd ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardal, rhoi hwb i dwristiaeth leol, a darparu profiad mwy pleserus i wersyllwyr. Trwy gynnig cyfleusterau modern a mynediad trydan hyblyg, rydym yn gwella apêl ac ymarferoldeb cyffredinol y safle.