Cyfle cyffrous i fasnachwyr 'newydd' o Sir Gâr i ymuno â marchnadoedd stryd artisan am ddim
1 diwrnod yn ôl

Mae masnachwyr lleol yn Sir Gaerfyrddin yn cael cynnig cyfle cyffrous i arddangos eu cynnyrch mewn lleoliadau sy'n denu llawer o bobl, diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio menter newydd i gynnal cyfres o farchnadoedd stryd artisan misol yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli. Y nod yw cefnogi masnachwyr lleol a dathlu'r gorau mewn bwyd, crefftau a chynhyrchion lleol wedi'u gwneud â llaw.
Bydd y marchnadoedd yn cael eu gweithredu gan Green Top Markets, darparwr marchnadoedd stryd arbenigol yng Nghymru. Bydd Green Top yn darparu pabell fawr a gasebos i stondinwyr, yn cynnig cyngor arbenigol ar gyflwyno stondinau, ac yn cydlynu hyrwyddo trwy gysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau cymdeithasol mewn partneriaeth â swyddogion y Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae hwn yn gyfle gwych i fasnachwyr profiadol ac entrepreneuriaid newydd i gael eu gweld a thyfu eu busnesau yng nghanol ein trefi prysur. Trwy gefnogi'r marchnadoedd artisan bywiog hyn, rydym nid yn unig yn rhoi hwb i fasnach leol ond hefyd yn helpu i ddathlu'r talent a'r cynnyrch unigryw sydd gan Sir Gâr i'w gynnig."
Bydd y digwyddiadau cyntaf yn cael eu cynnal rhwng 10 a 12 Gorffennaf, gyda chyfres o farchnadoedd misol wedi'u cynllunio wedi hynny. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly fe'ch anogir i gofrestru yn gynnar, yn enwedig i'r rheiny sy'n meddwl ymlaen ar gyfer cyfnod prysur y Nadolig.
Gall masnachwyr sydd â diddordeb gofrestru ar-lein yma neu e-bostio info@greentopmarkets.com i gael rhagor o wybodaeth.