Cydweithio i roi hwb i’r Gymraeg yn Sir Gâr
283 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Gâr a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi partneriaeth newydd heddiw (9 Mehefin 2025) fydd yn arwain at fwy o gyfleoedd i oedolion sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc i ddysgu neu fagu hyder yn y Gymraeg.
Bydd y bartneriaeth yn cefnogi’r Cyngor i wireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y sir – cynllun sydd â’r nod o gynyddu a chryfhau’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg yn arbenigo ar ddysgu’r Gymraeg, ac mae’n gyfrifol am bob agwedd ar y sector Dysgu Cymraeg. Yn ogystal â chyrsiau cymunedol ledled y wlad, mae’r Ganolfan yn darparu cynlluniau ar gyfer gwahanol sectorau a grwpiau, gan gynnwys byd addysg, iechyd a gofal a theuluoedd.
Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd dewis o gyfleoedd hyfforddiant ar gael ar wahanol lefelau, o ddechreuwyr i godi hyder. Bydd tiwtor Dysgu Cymraeg penodol i gefnogi’r gweithlu addysg, a bydd tiwtor yn cael ei leoli yn y Cyngor, ar gyfer staff sy’n gweithio â plant a phobl ifanc.
Bydd modd i ymarferwyr gael mynediad at ddarpariaeth arall y Ganolfan, sy’n cynnwys cyrsiau wyneb yn wyneb, cyrsiau hunan-astudio ar-lein a dosbarthiadau rhithiol. Mae cynllun Cymraeg yn y Cartref y Ganolfan hefyd ar gael, i gefnogi rhieni, gofalwyr a gwarchodwyr i gryfhau eu Cymraeg er mwyn defnyddio’r iaith â phlant a phobl ifanc.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Addysg a'r Gymraeg - Y Cynghorydd Glynog Davies:
Rwy’n croesawu’n fawr y bartneriaeth strategol hon gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol fydd yn hynod o bwysig dros y blynyddoedd nesaf wrth i’r awdurdod symud ymlaen gyda’n dyheadau o ran addysg Gymraeg.”
Meddai Meinir Ebbsworth, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:
Mae’r bartneriaeth yn rhoi ffocws ar dair elfen greiddiol, sef y ddarpariaeth yn yr ysgol, y modd y gall y cartref gefnogi datblygiad y Gymraeg, yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.
Dyma gynllun arloesol, gyda’r Ganolfan yn plethu ei gwasanaethau amrywiol â chynlluniau strategol hir-dymor, er mwyn cynorthwyo’r Cyngor i wireddu targedau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.”
