Ciosg ar gael i'w osod yng nghanol tref Caerfyrddin
13 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnig cyfle i fusnes neu entrepreneur brydlesu ciosg 2 ar Heol y Capel, Caerfyrddin.
Mae'r ciosg yn mesur tua 10 metr sgwâr ac mae'n dod â chyflenwad trydanol wedi'i ffitio. Mae'n cynnwys ffrynt gwydr gyda chaead diogelwch i roi amddiffyniad ychwanegol. Y rhent ar gyfer yr uned yw £30 yr wythnos.
Mae'r gofod manwerthu yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddiau, ac anogir entrepreneuriaid gyda busnesau newydd i wneud cais, yn ogystal â manwerthwyr annibynnol â rhywbeth unigryw i gynnig sy'n ategu'r hyn sydd eisoes ar gael yn y dref.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae'r ciosg hwn yn gyfle gwerthfawr i berchennog busnes sefydlu eu hunain yng nghanol tref Caerfyrddin. Rydym yn croesawu manwerthwyr ffres, annibynnol i ymuno â'n cymuned ac ychwanegu at yr amrywiaeth sy'n gwneud ein tref yn arbennig."
Mae modd cael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais drwy anfon neges e-bost i Markets@sirgar.gov.uk. Mae ceisiadau'n cau am hanner dydd, ddydd Gwener 27 Mehefin 2025.