Chwaraeon a Hamdden Actif yn derbyn Medal Aur RoSPA am y chweched flwyddyn yn olynol am ragoriaeth iechyd a diogelwch
6 diwrnod yn ôl

Mae tîm Chwaraeon a Hamdden Actif Cyngor Sir Caerfyrddin unwaith eto wedi cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i iechyd a diogelwch, gan ennill Gwobr Medal Aur RoSPA am y chweched flwyddyn yn olynol.
Mae Gwobrau RoSPA (Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau) sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol yn dathlu sefydliadau sy'n dangos ymroddiad diwyro i ddiogelu bywydau a gosod y safon ar gyfer rhagoriaeth iechyd a diogelwch. Mae'r wobr hon yn cadarnhau llwyddiant parhaus Actif wrth gynnal mesurau diogelwch trwyadl a sicrhau llesiant staff, aelodau ac ymwelwyr.
Wedi'i noddi gan Y Bwrdd Arholi Cenedlaethol ar gyfer Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH), cynllun Gwobrau RoSPA yw'r hynaf o'i fath yn y DU, ac mae'n derbyn ceisiadau gan sefydliadau ledled y byd, gan ei wneud yn un o'r cyflawniadau mwyaf poblogaidd ar gyfer y diwydiant iechyd a diogelwch.
Mae Gary Price wedi bod yn allweddol wrth arwain y broses o gyflwyno'r cais, gyda chyfraniadau gan reolwyr a chydweithwyr ar draws Actif. Mae eu hymdrech ar y cyd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus yr adran i ddiogelwch, gan sicrhau bod Chwaraeon a Hamdden Actif yn parhau i fodloni a rhagori ar safonau uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae'r wobr hon yn gyflawniad gwych i Actif ac yn dyst i ymroddiad ein staff wrth sicrhau bod iechyd a diogelwch yn brif flaenoriaeth. Mae eu hymrwymiad yn sicrhau bod ein cyfleusterau yn parhau i fod yn fannau diogel a chroesawgar i'r gymuned gyfan. Mae derbyn Medal Aur RoSPA am y chweched flwyddyn yn olynol yn gyflawniad rhagorol, ac rwy'n falch iawn o'r tîm am gynnal safonau mor uchel."
Dywedodd Julia Small, Cyfarwyddwr Twf RoSPA:
Dylai Chwaraeon a Hamdden Actif fod yn falch o'r gwaith caled a'r ymrwymiad i gadw pobl yn ddiogel sydd wedi arwain at Wobr RoSPA, mae'r wobr yn anrhydeddu'r sefydliadau hynny sydd wedi cyflawni'r safonau uchaf o ran iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Mae RoSPA yn ystyried Actif fel enghraifft gref o’r pwysigrwydd i sicrhau bod atal damweiniau yn ganolog i unrhyw sefydliad llwyddiannus, nid yn unig er budd gweithwyr, cwsmeriaid a chleientiaid, ond hefyd cymdeithas yn ei chyfanrwydd."