Blue Marble Refill a sefydliad celfyddydol newydd yn ffynnu mewn lleoliad newydd yng Nghaerfyrddin gyda chymorth Urban Foundry

76 diwrnod yn ôl

Mae Blue Marble Refill, siop ddiwastraff Caerfyrddin, wedi dod o hyd i gartref newydd yn sgil menter gyda Chyngor Sir Caerfyrddin. Ym mis Chwefror 2025, symudodd y busnes i ofod mwy o faint a mwy canolog yn 45 Heol y Brenin, Caerfyrddin, oedd wedi bod yn wag am 18 mis.

Mae symud yma wedi rhoi cyfle i Blue Marble Refill dyfu, cyrraedd mwy o gwsmeriaid, a datblygu cenhadaeth y cwmni i annog pobl i leihau gwastraff a byw'n fwy cynaliadwy.

Mae'r siop yn gwerthu ystod eang o gynhyrchion diwastraff, gan gynnwys bwyd, hanfodion y cartref ac eitemau gofal personol. Mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i ddod â'u cynwysyddion eu hunain a'u hail-lenwi, gan helpu i leihau gwastraff plastig a lleihau eu hôl troed amgylcheddol.

Nod Harriet Baggley, y perchennog, yw nid dim ond gwerthu cynhyrchion ond ysbrydoli pobl i ailfeddwl eu harferion a gwneud dewisiadau sy'n fwy ymwybodol o'r blaned. 

Partneriaeth greadigol gyda Criwdem Celf CIC

Mae'r gofod newydd nid yn unig wedi bod o fudd i Blue Marble Refill, mae hefyd wedi rhoi cartref i Criwdem Celf CIC, sef sefydliad celf newydd y mae Harriet wedi helpu i'w sefydlu gyda dau artist lleol, Joanna Bond a Kelly-Marie Howlett. Mae'r adeilad sy'n cael ei rannu wedi creu amgylchedd cydweithredol lle mae cynaliadwyedd a chreadigrwydd yn dod at ei gilydd. Mae wedi caniatáu i Blue Marble Refill a Criwdem Celf dyfu ochr yn ochr, gan gefnogi ei gilydd a dod ag egni newydd i'r gofod. 

Mae Criwdem Celf CIC yn cynnig llwyfan i artistiaid lleol arddangos eu gwaith a chysylltu â'r gymuned. Yn ddiweddar, fe wnaethon nhw gynnal 'Faces of Rebellion' – arddangosfa ryngwladol deithiol yn dathlu ymgyrchwyr hinsawdd.

Ar ben hynny, maen nhw wedi lansio sesiwn gymdeithasol wythnosol i artistiaid, gweithdai creadigol i'r teulu, a sesiynau cymunedol. Maen nhw hefyd wedi sicrhau cyllid grant gan y cyngor tref ar gyfer digwyddiad creadigol sydd ar ddod. Mae Criwdem Celf hefyd yn cefnogi sefydliadau lleol eraill, drwy werthu cynnyrch gan fusnesau newydd, a bod y busnes cyntaf i gefnogi system gompostio leol newydd, sef Clwb Compostio. Ac mae cymaint mwy i ddod.

Dywedodd un cyfranogwr diweddar yn y sesiynau cymdeithasol wythnosol i artistiaid:

Fel rhywun sy'n ei chael hi'n anodd cadw cymhelliant wrth weithio ar ei ben ei hun gartref, mae'r noson gymdeithasol i artistiaid wedi bod yn hynod werthfawr. Mae'r cyfle i greu mewn amgylchedd cefnogol gydag eraill wedi cael effaith gadarnhaol ar fy nghymhelliant. Mae ymgysylltu â chymuned o artistiaid mewn gofod croesawgar wedi fy annog i ddal ati i wneud celf ac mae wedi darparu ymdeimlad gwirioneddol o berthyn. Rwy'n credu bod y fenter hon yn chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi pobl greadigol leol ac rwy'n gobeithio y gall barhau gyda'r cyllid sydd ei angen arni.”

Mae Harriet hefyd wedi sôn am bositifrwydd a chefnogaeth Arwel Sharp, y landlord (sydd hefyd yn rhedeg Sharp Plumbing and Heating Limited yng Nghaerfyrddin). Dywedodd Arwel:

Fel dyn balch o Gaerfyrddin, roedd cael gwahoddiad a gallu cymryd rhan yn y prosiect hwn ar gyfer siop sionc yn gyfle gwych. Mae wir wedi bod yn bleser gweld y prysurdeb sydd yn Heol y Brenin unwaith eto yn sgil y prosiect. Yn goron ar y cyfan, rydyn ni hefyd wedi bod yn ffodus i wneud ffrindiau newydd, a pherthynas waith hirdymor gyda 'Blue Marble Refill' a 'Criwdem Celf CIC’. Dymuniadau gorau a diolch i bawb sy'n cymryd rhan.”

Rôl Urban Foundry o ran gwneud i hyn ddigwydd

Gweithiodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn agos iawn gydag Urban Foundry sy'n arbenigwyr blaenllaw mewn stondinau sionc.

Mae Harriet yn rhoi clod i'r ddau am helpu ei busnes i dyfu, a dywedodd:

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ac Urban Foundry wedi fy helpu i ddatgloi lefel newydd o dwf busnes ar gyfer fy microfusnes yng Nghaerfyrddin. Mae'r gofod hwn yn gyfatebiad perffaith, ac rydw i eisoes yn gweld y manteision i'm busnes a'r gymuned leol. Rydyn ni newydd gytuno ar brydles o bum mlynedd (gydag estyniad byr ar ein trwydded ar gyfer y siop sionc i roi amser i ni fireinio'r brydles newydd). Rwyf wrth fy modd!"

Dywedodd Tara Tarapetian, Cyfarwyddwr Urban Foundry:

Mae wedi bod yn bleser helpu Harriet. Mae ei busnes yn cyd-fynd mor dda â gwerthoedd Urban Foundry, ac mae'n cael cymaint o effaith nid yn unig ar ei busnes ond ar Gaerfyrddin hefyd. Rydyn ni i gyd yn ceisio gwneud dewisiadau mwy cynaliadwy ac ystyriol wrth siopa – mae'r busnes yn gwneud hyn yn fwy hygyrch. Mae pobl yn gallu gweld hyn. Mae pobl am gymryd rhan a gwneud dewisiadau moesegol, hawdd.”

Nod Urban Foundry yw rhoi bywyd newydd i ganol trefi yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli drwy lenwi mannau gwag gyda busnesau lleol a phrosiectau creadigol. Mae'r prosiect yn cefnogi busnesau i ddod o hyd i'r adeiladau cywir ac yn darparu arweiniad parhaus i'w helpu i dyfu a chyfrannu at yr economi leol. Mae eisoes wedi cael llwyddiant mawr yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Mae adfywio 45 Heol y Brenin yn enghraifft o'r math o adfywio ystyrlon rydyn ni'n ymdrechu i'w gyflawni ar draws canol ein trefi. Trwy ddefnyddio dull cydweithredol gydag Urban Foundry ac ymrwymiad entrepreneuriaid lleol angerddol, mae'r gofod gwag hwn wedi'i drawsnewid yn ganolfan fywiog o ran cynaliadwyedd a chreadigrwydd. Mae llwyddiant Blue Marble Refill a Criwdem Celf CIC nid yn unig yn cefnogi ein heconomi leol, ond hefyd yn meithrin cydlyniant cymunedol a chyfrifoldeb amgylcheddol. Mae'n dangos manteision pendant ein strategaeth adfywio ehangach - gan roi bywyd newydd i'n strydoedd mawr gan rymuso menter leol ac ymgysylltu diwylliannol”.

Ymweld â Blue Marble Refill a Criwdem Celf CIC

Mae Blue Marble Refill a Criwdem Celf CIC ar agor chwe diwrnod yr wythnos yn 45 Heol y Brenin, Caerfyrddin. 

Dilynwch @criwdem_celf a @bluemarblerefill ar Instagram 

Mae'r prosiect hwn yn cael ei gyflawni mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Deiliad y ffotograff: Dai Eastwood.