Ymunwch â Chyngor Sir Caerfyrddin i gymryd rhan ym Mai Di Dor!

3 diwrnod yn ôl

Mae ymchwil wedi dangos bod nifer y pryfed peillio yn lleihau yn y DU, a allai gael effaith ddifrifol ar fioamrywiaeth, cyflenwad bwyd a hyd yn oed iechyd pobl. Un o brif achosion hyn yw colli cynefinoedd a gallwn ni i gyd helpu i'w atal drwy gymryd rhan ym menter Mai Di Dor Plantlife.

Ar draws Sir Gaerfyrddin, mae dros 70 o safleoedd wedi'u nodi fel rhai sy'n addas ar gyfer rhaglen y Cyngor i beidio â thorri'r glaswellt drwy gydol mis Mai. Dim ond llwybrau ac ymylon ffyrdd fydd yn cael eu rheoli trwy gydol y mis.Bydd hyn yn caniatáu i rywogaethau planhigion flodeuo ac yn darparu ffynhonnell hanfodol o baill a neithdar. Mae glaswellt hirach hefyd yn darparu lloches i fywyd gwyllt, yn lleihau llygredd, yn cynyddu dal a storio carbon, ac yn lleihau allyriadau carbon drwy ddefnyddio llai o danwydd i dorri'r glaswellt.

Nid fydd gwaith cynnal a chadw ymylon priffyrdd yn dechrau tan fis Mehefin felly bydd yr ymylon yn cael eu gadael heb eu torri i raddau helaeth, oni bai bod angen eu rheoli i ddefnyddwyr y ffyrdd weld yn glir.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Nid yw Mai Di Dor dim ond yn ymwneud â gadael i'ch glaswellt dyfu- ond mae'n ymwneud â gadael i natur anadlu. Trwy dorri llai o laswellt yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn cefnogi poblogaethau peillwyr, gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo ecosystemau iachach.  Mae Mai Di Dor yn gweithredu fel elfen allweddol wrth liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd yn Sir Gaerfyrddin.

Y mis hwn, beth am edrych yn fwy manwl ar eich lawnt a gweld pa flodau sy'n tyfu yn ystod y cyfnod hwn.

Os hoffech ddarllen mwy am ymrwymiad y Cyngor Sir i newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, ewch i'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth.