Y Cyngor yn chwilio am help i adnabod unigolyn yn dilyn troseddau baw cŵn

3 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin am gael help i adnabod unigolyn sydd wedi cael ei weld yn peidio â chodi baw ci yn Llanelli. 

Mae'r lluniau sydd i'w gweld ar deledu cylch cyfyng yn dangos hyn yn digwydd yn Stryd Havelock yn Llanelli. 

Rydyn ni'n gobeithio y bydd trigolion yn gallu ein helpu i adnabod yr unigolyn. 

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Rydyn ni unwaith eto yn gofyn am help gan aelodau o'r cyhoedd i adnabod unigolyn sydd wedi cael ei weld ar deledu cylch cyfyng yn peidio â chodi baw ci."

Gallwch chi roi gwybod i ni ar ein gwefan neu ffonio 01267 234567. 

Nodyn ar gyfer golygyddion: Mae'r wybodaeth hon yn cael ei datgelu o dan yr eithriad yn narpariaethau Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data yn Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 2 (1) (c) o Ddeddf Diogelu Data 2018 gan y byddai peidio â datgelu'r lluniau hyn yn niweidiol i'r pwrpas o ddal neu erlyn troseddwr.”