Tynnu sylw at bwysigrwydd glanhau dwylo ar Ddiwrnod Hylendid Dwylo'r Byd
8 diwrnod yn ôl

I nodi Diwrnod Hylendid Dwylo'r Byd, sef dydd Llun 5 Mai 2025, mae Tîm Gofal Cymdeithasol a Diogelu Iechyd Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn cysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled y rhanbarth i annog arferion cyson o ran hylendid dwylo.
Mae hylendid dwylo yn neges allweddol sy'n cael ei hyrwyddo o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin drwy'r flwyddyn a'n nod yw lleihau trosglwyddo heintiau yn y gymuned, amgylcheddau gofal iechyd a thu hwnt.
Mae Diwrnod Hylendid Dwylo'r Byd 2025 yn cael ei drefnu gan Sefydliad Iechyd y Byd, a'i nod yw canolbwyntio ar yr amcanion allweddol canlynol:
- Hyrwyddo'r arferion gorau posibl o ran hylendid dwylo: Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r dechneg briodol a dilyn dull 5 Adeg Sefydliad Iechyd y Byd o ran hylendid dwylo, ynghyd â defnydd cyfrifol o fenig yn y llif gwaith gofal iechyd.
- Hyrwyddo cynnwys hylendid dwylo mewn strategaethau atal a rheoli heintiau cenedlaethol, yn ogystal â gweithdrefnau safonol ar lefel cyfleusterau, yn unol ag argymhellion cynllun gweithredu byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd a fframwaith monitro 2024-2030.
- Codi ymwybyddiaeth o effaith amgylcheddol defnyddio menig: Tynnu sylw at effeithiau sylweddol defnyddio menig ar yr amgylchedd a'r hinsawdd, yn enwedig o ran cynhyrchu gwastraff, a chefnogi defnyddio menig yn gyfrifol dim ond pan mae angen.
Mae Diwrnod Hylendid Dwylo'r Byd yn atgoffa pawb mai glanhau dwylo yw un o'r camau ataliol pwysicaf wrth leihau lledaeniad heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd, lleoliadau gofal cymunedol ac mewn bywyd pob dydd.
Dywedodd Arweinydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Jane Tremlett: “Mae hylendid dwylo yn gyfarwyddyd syml ond hynod bwysig i ni i gyd ei ddilyn. Er bod y Cyngor Sir yn gwneud hyn bob diwrnod o'r flwyddyn, rydym yn llwyr gefnogi Diwrnod Hylendid Dwylo Sefydliad Iechyd y Byd i godi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn, sy'n rhan hanfodol o fywyd pob dydd.”