Traeth Cefn Sidan ym Mharc Gwledig Pen-bre yn cadw Statws Nodedig y Faner Las
1 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Gâr yn falch o gyhoeddi bod Traeth Cefn Sidan, ym Mharc Gwledig Pen-bre, wedi cael statws nodedig y Faner Las unwaith eto am flwyddyn arall. Mae'r anrhydedd hon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac yn tynnu sylw at ansawdd dŵr, rheolaeth amgylcheddol, safonau diogelwch, a chyfleusterau ymwelwyr arbennig y traeth.
Mae Gwobr y Faner Las, sy'n cael ei rheoli gan Cadwch Gymru'n Daclus ar ran y Sefydliad Addysg Amgylcheddol, yn farc safon byd-enwog. Mae Cefn Sidan yn dal i fod yn un o'r traethau mwyaf enwog yng Nghymru, gan gynnig wyth milltir o dywod euraidd, golygfeydd godidog o'r arfordir, ac amgylchedd naturiol hyfryd i bobl leol ac ymwelwyr.
Mae cadw statws y Faner Las yn dyst i waith caled ac ymroddiad awdurdodau lleol, staff y parc, gwirfoddolwyr, a'r gymuned i gynnal safonau amgylcheddol uchel. Mae'r traeth yn dal i weithredu arferion twristiaeth cynaliadwy, gan sicrhau bod ei gynefin arfordirol unigryw yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Cefn Sidan nid yn unig yn brydferth ond hefyd yn ddiogel ac yn hygyrch. Mae gan y traeth wasanaethau achubwyr bywyd rhagorol, arwyddion diogelwch clir, a chyfleusterau sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n dda. Mae'r traeth yn lle delfrydol i deuluoedd a'r rheiny sy'n hoffi byd natur a'r awyr agored, gan gynnig gweithgareddau fel cerdded, beicio, chwilota glan môr, a chwaraeon dŵr.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth Cyngor Sir Gâr:
Rydym wrth ein boddau bod Traeth Cefn Sidan wedi cadw ei statws Baner Las unwaith eto. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ein hymdrechion parhaus i warchod a gwella ein harfordir naturiol gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad diogel a phleserus. Rydym yn annog pawb i ddal ati i barchu a gwarchod ein traeth hardd.”
Gyda'r haf ar y ffordd, mae'n amser gwych i ymweld â thraeth Cefn Sidan a gweld ei harddwch eithriadol drosoch eich hun. P'un a ydych chi'n chwilio am rywle i ymlacio ar lan y môr neu am antur sy'n llawn cyffro, mae Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig rhywbeth at ddant pawb.
I gael rhagor o wybodaeth am Draeth Cefn Sidan a Pharc Gwledig Pen-bre, ewch i: https://www.parcgwledigpenbre.cymru/