Sir Gaerfyrddin yn dathlu heneiddio'n dda
2 diwrnod yn ôl

Ar 3 Ebrill 2025, cafodd pobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin eu gwahodd i ddigwyddiad am ddim yn y Ffwrnes, Llanelli. Nod y digwyddiad oedd dathlu heneiddio, hyrwyddo iechyd, meithrin cysylltiadau a rhoi gwybodaeth am brosiectau, gweithgareddau a gwasanaethau lleol ym mhob rhan o'r sir sy'n gallu helpu pobl i fyw a heneiddio'n dda.
Mwynhaodd y rhai oedd yn bresennol ddiwrnod llawn gweithgareddau diddorol, gan gynnwys stondinau gwybodaeth gan ddarparwyr gwasanaethau, gweithdai, arddangosiadau a siaradwyr gwadd. Roedd yr uchafbwyntiau'n cynnwys:
- Côr Cysur
- Arddangosiadau Tai Chi a Dawnsio Gwerin yr Alban
- Côr People Speak Up
- Gweithdy Catalyddion Gofal
Roedd sgyrsiau diddorol gan Julian Lewis Jones, yr actor o Gymru, yn ogystal ag areithiau gan Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, a Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Plant:
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r rhai fu'n rhan o gynllunio'r digwyddiad Heneiddio'n Dda yn gynharach y mis hwn, a diolch i'r rhai oedd yn bresennol. Roedd y digwyddiad hwn wedi'i anelu at y rhai yn ein cymuned 50+ oed, oedd yn gallu dod i ddysgu mwy am brosiectau, gwasanaethau a gweithgareddau lleol ym mhob rhan o'n Sir sy'n chwarae rhan enfawr mewn heneiddio'n dda. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, ac rwy'n edrych ymlaen at yr un nesaf.