Newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod Gŵyl Banc y Gwanwyn

12 awr yn ôl

Bydd newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod Gŵyl Banc y Gwanwyn eleni.

Bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyr fel y dangosir isod:

Diwrnod casglu arferol

Diwrnod Casglu diwygiedig

Dydd Llun, 26 Mai

Dydd Mawrth, 27 Mai

Dydd Mawrth, 27 Mai

Dydd Mercher, 28 Mai

Dydd Mercher, 28 Mai

Thursday, 29 May

Dydd Iau, 29 Mai

Dydd Gwener, 30 Mai

Dydd Gwener, 30 Mai

Dydd Sadwrn, 31 Mai

 

Rhowch eich sbwriel mas erbyn 6am ar y diwrnod casglu diwygiedig. Bydd casgliadau gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.

Er mwyn helpu i sicrhau bod casgliadau'n rhedeg yn esmwyth dros gyfnod Gŵyl y Banc, mae gweithwyr ychwanegol wedi'u penodi yn dilyn ymgyrch recriwtio ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gwastraff, Trafnidiaeth a Seilwaith:

"Mae ein timau wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff cyson i breswylwyr, hyd yn oed yn ystod cyfnodau gwyliau prysur fel Gŵyl Banc y Gwanwyn. Gan adeiladu ar lwyddiant casgliadau dros y Pasg a Chalan Mai, rydym yn canolbwyntio ar gynnal yr un dibynadwyedd ar gyfer Gŵyl y Banc sydd i ddod. Hoffwn hefyd ddiolch i'r timau ymroddedig sy'n gwirfoddoli i sicrhau bod gwasanaethau yn rhedeg yn esmwyth yn ystod gwyliau banc."

Er ein bod yn anelu at gasglu yn ôl yr amserlen, efallai y bydd tarfu lleol a allai newid ar fyr rybudd. I helpu i osgoi tarfu ar gasgliadau ac i sicrhau diogelwch pawb yn ein cymuned, gofynnwn i chi barcio’n gyfrifol i sicrhau y gall cerbydau casglu gwastraff fynd heibio’n ddiogel.

Cadwch lygad ar ein tudalen tarfu ar gasgliadau gwastraff  i weld unrhyw ddiweddariadau.

Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre, Nantycaws, Wernddu, a Hendy-gwyn ar Daf ar agor fel arfer dros benwythnos Gŵyl y Banc. Gallwch wirio eu horiau agor yma.

Diolch yn fawr am ailgylchu.