Hwyl i'r teulu yn Sir Gaerfyrddin yn ystod hanner tymor y Sulgwyn
16 diwrnod yn ôl

Wrth i hanner tymor y Sulgwyn nesáu, Sir Gaerfyrddin yw'r lle i fod am ddiwrnod allan bythgofiadwy i'r teulu. O anturiaethau awyr agored i brofiadau diwylliannol cyffrous, mae'r sir yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau am ddim a chost isel a fydd yn sicrhau Sulgwyn i'w gofio. P'un a ydych chi'n chwilio am anturiaethau llawn egni, diwrnodau allan hamddenol, neu gysgodi dan do ar ddiwrnodau gwlyb, Sir Gaerfyrddin yw'r lle perffaith ar gyfer seibiant cofiadwy.
Ewch i dudalen Be sy' Mlaen Darganfod Sir Gâr i weld rhestr lawn o weithgareddau.
Bydd Canolfannau Hamdden Actif Sir Gaerfyrddin yn llawn hwyl y Sulgwyn hwn, o wersi nofio dwys i blant ac offer gwynt mewn pwll i Nerf gun battles, adeiladu Lego, a Byrddau Dŵr, dyma'r lle ar gyfer profiad gwirioneddol egnïol. Mae Canolfan Hamdden Llanelli hefyd yn cynnal sesiynau nofio am ddim i blant hyd at 16 oed ar ddydd Sadwrn, 24 a 31 Mai. I gael rhagor o fanylion am y cyfleoedd cyffrous hyn, ewch i wefan Actif.
Mae hanes ac arloesedd yn dod yn fyw yn Amgueddfa Cyflymder Tir Pentywyn. Trwy gydol yr wythnos, gall plant greu eu ceir trydan eu hunain neu ymuno â'r Clwb Ceir Crefftus am brofiad creadigol. Peidiwch â cholli'r cyfle i weld y car rasio eiconig, Babs, a gweld arddangosfeydd diddorol eraill.
Ar 31 Mai, ymunwch â digwyddiad arbennig wedi'i ysbrydoli gan The Herds, prosiect gweithredu hinsawdd byd-eang, sy'n cynnwys gweithdai gwneud pypedau, gweithgareddau celf, a ffocws addysgol ar rywogaethau mewn perygl a chynaliadwyedd.
Beth am roi cynnig ar Gwallgolff yn Caban, Pentywyn yr hanner tymor hwn. P'un a ydych chi'n brofiadol neu'n rhoi cynnig iddi am y tro cyntaf, mae'r cwrs 12 twll cyffrous hwn sydd â throeon, heriau a hwyl ddiddiwedd yn addas i'r teulu cyfan.
Bydd Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn cynnal ystod amrywiol o weithgareddau hwyliog i blant, gan gynnwys:
- Amser Stori a Lliwio ar gyfer plant dan 5 oed
- Sesiynau Crefft i blant 5 oed a throsodd
- LEGO & Duplo ar gyfer pob oedran
- Clwb Codio Scratch ar gyfer plant 7 oed a thrsosdd
- Sesiynau Scalextric Sadwrn lle gall plant rasio ar drac wedi'i adeiladu'n arbennig am ychydig o hwyl cyflym.
Mae Canolfan Eto, sydd ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul, yn cynnig cyfle i siopa am eitemau wedi'u hatgyweirio a'u hailbwrpasu, sy'n berffaith i'r rhai sy'n chwilio am drysorau ecogyfeillgar.
Os ydych chi'n hoff o fyd natur, mae Canolfan Gwlyptir WWT Llanelli yn cynnig Helfa Chwilod Gwlyptir gyda Lloyd of the Flies ar 24 Mai, lle gallwch ddod o hyd i fwystfilod bach ac ymgysylltu â natur trwy realiti estynedig.
I'r rheiny sy'n chwilio am antur ar ddwy olwyn, mae llwybrau beicio Sir Gaerfyrddin sydd â golygfeydd yn ffordd berffaith i grwydro'r sir. Ewch ar daith ar hyd llwybrau di-draffig fel Llwybrau Sustrans 4, 437, a 47, neu ar hyd Llwybr Dyffryn Tywi, sydd newydd agor, a mwynhau golygfeydd arbennig. Os ydych chi'n chwilio am brofiad mwy tywysedig, ewch i Barc Gwledig Pen-bre ar Fai 30 am daith dywys gyda'r ceidwaid gan grwydro'r parc a'r Goedwig gyfagos. Fel arall, ymunwch â Thaith Feicio i'r Teulu Foothold Cymru ar 27 Mai am daith dywys hamddenol o amgylch Llanelli, dan arweiniad arweinwyr Beicio Prydain. Neu beth am fynd i grwydro traethau hardd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Cefn Sidan, Pentywyn a Llansteffan, neu gamwch yn ôl mewn amser yn un o gestyll hanesyddol y sir, gan gynnwys caer ddramatig Carreg Cennen ar ben bryn neu Gastell hyfryd Cydweli.
Mae llawer o bethau gan Theatrau Sir Gaerfyrddin i'w cynnig y Sulgwyn hwn:
- Where is Mrs Christie? yn Theatr y Glowyr (Mai 23)
- The Makings of a Murderer 2 yn Theatr y Ffwrnes (Mai 23)
- Beauty and the Beast JR. (Mai 28–31)
- Giselle – perfformiad bale syfrdanol ar 31 Mai yn Theatr y Lyric
- The Jive Aces yn Theatr Lyric ar 24 Mai.
- Reslo Cymru ar 29 Mai a Noson Clwb comedi ar 30 Mai yn Theatr y Glowyr
O lwybrau beicio â golygfeydd i berfformiadau byw cyfareddol, mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig cymysgedd cyfoethog o weithgareddau sy'n addas i bawb.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
Mae amrywiaeth o bethau i'w gwneud yn Sir Gaerfyrddin y Sulgwyn hwn - o anturiaethau awyr agored cyffrous a gweithgareddau sy'n addas i deuluoedd i weithdai creadigol ymarferol a pherfformiadau theatr ysbrydoledig. P'un a ydych chi'n creu atgofion gyda theulu neu'n mwynhau gyda ffrindiau, does dim lle gwell i dreulio'r egwyl hanner tymor."