Ethol y Cynghorydd Dot Jones yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir

16 awr yn ôl

Mae'r Cynghorydd Dot Jones, aelod dros Ward Llannon, wedi ei hethol i'r gadwyn swyddogol yng Nghyfarfod Blynyddol Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw, ddydd Mercher 21 Mai 2025.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Jones deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, sef y Cynghorydd Handel Davies, gan ddiolch iddo am ei wasanaeth i'r Cyngor.

Y Cynghorydd Jones fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf. Ei chydymaith fydd ei chwaer, Mrs Ellen Davies, a'r Is-gadeirydd fydd y Cynghorydd Giles Morgan, aelod dros Ddyffryn y Swistir.

 

Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, dywedodd y Cynghorydd Dot Jones, Cadeirydd y Cyngor:

Mae'n anrhydedd anhygoel cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar y gwaith sydd i ddod mewn blwyddyn brysur a boddhaol.”

Mae'r Cynghorydd Jones wedi dewis Beiciau Gwaed Cymru fel ei helusen yn ystod ei thymor yn y swydd. 

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.

Mae'r Cynghorydd Jones wedi bod yn Gynghorydd Sir ers mis Mai 2017 ac mae'n rhan o'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol, y Pwyllgor Trwyddedu, a'r Panel Rhianta Corfforaethol.

 

 

.