Ein Trefi Gwledig: Cwmaman
5 diwrnod yn ôl
Fel rhan o raglen Deg Tref Cyngor Sir Gâr, mae trefi marchnad gwledig y sir wedi derbyn cefnogaeth i ddatblygu prosiectau newydd cyffrous i ychwanegu bywiogrwydd a budd economaidd i'w tref. Y mis hwn, rydym yn canolbwyntio ar Gwmaman, ac yn edrych ar sut y mae'r dref wedi elwa ar gyllid trwy Gyngor Sir Gâr a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Yn Nyffryn Aman, mae Cwmaman mewn sefyllfa strategol i achub mantais ar ei agosrwydd i rannau trefol Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, ac Abertawe. Mae harddwch naturiol yr ardaloedd cyfagos i'r dref, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a rhwydwaith o lwybrau cerdded hyfryd, yn golygu bod Cwmaman yn prysur ddod yn gyrchfan ar gyfer twristiaeth gweithgareddau. I ddysgu rhagor am Gwmaman fel cyrchfan i dwristiaid, ewch i Darganfod Sir Gâr.
Mae Cwmaman wedi elwa ar sawl prosiect allweddol a gynlluniwyd i wella ei hapêl fel cyrchfan i dwristiaid. Un fenter arwyddocaol oedd adnewyddu Byncws 28 gwely y dref. Mae'r cyfleuster hwn wedi'i uwchraddio'n llawn, a bellach yn cynnig:
• Addurnwaith newydd, croesawgar i amlygu'r diwylliant lleol a'r iaith Gymraeg
• Gwell cyfleusterau cegin, cawodydd a thoiledau
• Gwell mynediad i bobl anabl a dodrefn newydd
Yn ogystal, mae llwybrau naratif dwyieithog sy'n arddangos cyfoeth treftadaeth Cwmaman. Mae'r llwybrau rhyngweithiol hyn yn cynnwys elfennau sain sy'n dod â hanes y dref yn fyw, gan gynnig profiad diddorol ac addysgol i ymwelwyr. Mae strategaeth farchnata gynhwysfawr hefyd wedi'i rhoi ar waith i hyrwyddo Cwmaman yn lleol ac ar draws y wlad, gan gynyddu ymwybyddiaeth a chynyddu nifer yr ymwelwyr.
Mae busnesau lleol y dref wedi elwa ar y Gronfa Adfywio Canol Trefi Gwledig, ac mae sawl adeilad yn derbyn grantiau i wella eu gwedd allanol. Hefyd, bydd murlun newydd wedi'i baentio gan yr artist o Sir Gâr, Steve Jenkins. Ar Sgwâr Raven fydd y murlun, a bydd yn cynrychioli hanes a threftadaeth gyfoethog y dref. Gwnaed gwelliannau hefyd i fannau cyhoeddus yn y dref, fel cysgodfannau bysiau newydd, prosiectau plannu ar raddfa fach, a gwelliannau i arwynebau ar Sgwâr Glanaman a Sgwâr y Garnant.
Mae ymrwymiad Cwmaman i gynaliadwyedd hefyd yn amlwg drwy Gronfa'r Economi Gylchol. Cwblhawyd darn celf cyhoeddus o ddeunyddiau gwastraff yn ddiweddar, sy'n dangos ymroddiad y dref i gynaliadwyedd gan ychwanegu at ei thirwedd artistig. Cyflwynwyd y gwaith celf terfynol i'r Cyngor Cymuned gan blant o Ysgol y Bedol, a fu'n gweithio gyda chwmni lleol CISP Multimedia i greu'r gwaith celf fydd yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman.
Helpodd Cronfa Digwyddiadau y Deg Tref i gefnogi Digwyddiad Llusernau Nadolig Cwmaman ym mis Rhagfyr 2024, pryd goleuwyd y dref gan lusernau mawr, a ddyluniwyd yn broffesiynol. Creodd grwpiau lleol eu llusernau eu hunain trwy weithdai, ac ychwanegwyd at ysbryd yr ŵyl gan berfformiadau artistiaid lleol. Yn ogystal â hoelio sylw ar ddiwylliant Cwmaman, denwyd ymwelwyr a wnaeth gyfrannu at yr economi leol.
Diolch i gyllid gan y prosiect Cymunedau Cynaliadwy, mae Cwmaman United wedi gosod llifoleuadau LED ynni-effeithlon, gwella ei ystafelloedd newid drwy baneli solar a batris, a datblygu cae bach newydd i gynnal hyfforddiant a gemau ychwanegol. Hefyd mae 100 o goed wedi'u plannu o amgylch y prif gaeau ym Mharc Grenig, sy'n cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol a dyfodol mwy gwyrdd i'r clwb.
Mae tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Gwledig Cyngor Sir Gâr, Hwb Bach y Wlad, yn ymweld â lleoliadau gwledig ar draws y Sir i gynnig cymorth, cefnogaeth a chyngor. Gall ymgynghorwyr profiadol Hwb helpu preswylwyr Sir Gâr gyda'u hymholiadau Cyngor a darparu bagiau gwastraff ac ailgylchu yn ogystal ag eitemau Tlodi Mislif. Ochr yn ochr â hyn, gall ymgynghorwyr gyfeirio preswylwyr at adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor a all gynorthwyo ymhellach gyda'u hymholiadau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r wefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/hwb-bach-y-wlad
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae Cwmaman yn enghraifft wych o sut gallwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein trefi gwledig. Diolch i'r cyllid, mae'r dref yn dod yn lle mwy croesawgar a chynaliadwy, gyda chyfleusterau newydd a ffocws ar warchod ei diwylliant a'i threftadaeth. Rwy'n falch iawn o weld y gymuned yn cymryd rhan, ac rwy'n gyffrous i weld sut fydd Cwmaman yn parhau i ddatblygu fel lle llawn bwrlwm i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd."
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect 10 Tref, ewch i'r wefan: https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/deg-tref/cwmaman/