Dyn o Bencader yn cael ei erlyn am fridio cŵn yn anghyfreithlon yn dilyn ymchwiliad y cyngor
2 diwrnod yn ôl

Mae dyn o Bencader wedi cael ei ddyfarnu'n euog am weithredu busnes bridio cŵn anghyfreithlon yn dilyn erlyniad yn Llys y Goron Abertawe gan yr awdurdod lleol.
Canfuwyd bod Marc Jones, o 1 Golwg yr Ogof, Pencader, SA39 9HS, wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch bridio cŵn heb drwydded, yn groes i gyfreithiau lles anifeiliaid a thrwyddedu. Daeth yr achos i ben yn Llys y Goron Abertawe ar 17 Ebrill 2025.
Dechreuwyd yr ymchwiliad ym mis Rhagfyr 2021, pan gysylltodd y cyngor â Mr Jones am y tro cyntaf drwy lythyr ffurfiol yn amlinellu'r gofynion cyfreithiol sy'n ymwneud â bridio cŵn, gan gynnwys yr angen am drwydded briodol. Er gwaethaf camau pellach, gan gynnwys darparu ffurflen gais a phecyn gwybodaeth a anfonwyd ar 10 Mai 2023, methodd Mr Jones â chyflwyno unrhyw gais i reoleiddio'i weithgareddau.
Dangosodd tystiolaeth a gasglwyd o sawl platfform hysbysebu ar-lein fod Mr Jones wedi bridio mwy na 3 torraid o gŵn bach o fewn cyfnod o 12 mis - yn amlwg yn fwy na'r trothwy cyfreithiol sy'n gofyn am drwydded. Canfu ymchwilwyr hefyd fod bridio a gwerthu yn parhau er gwaethaf y cyngor a'r ymyriadau gan swyddogion y cyngor.
O ganlyniad i'r ymchwiliad, ac o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002, penderfynodd y llys fod Mr Jones wedi elwa'n ariannol o'r gweithgarwch troseddol, gan asesu swm o £100,000. Mae Mr Jones wedi cael gorchymyn i ad-dalu'r swm hwn o fewn tri mis neu wynebu dedfryd diffygdalu o 12 mis.
Yn ogystal, rhoddodd y llys ryddhad amodol 12 mis yn lle cosb ariannol ar wahân. Cafodd Mr Jones orchymyn hefyd i dalu'r gordal dioddefwr statudol.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae'r achos hwn yn dangos ymrwymiad y cyngor i gynnal safonau lles anifeiliaid a sicrhau bod bridio cŵn yn gyfrifol ac yn gyfreithiol. Er gwaethaf ymdrechion dro ar ôl tro i gynghori Mr Jones ac annog cydymffurfiaeth, dewisodd anwybyddu'r gyfraith a gwneud elw heb ystyried rheoleiddio na lles anifeiliaid."
Atgoffir preswylwyr bod rhaid i unrhyw un sy'n ymwneud â bridio a gwerthu cŵn gydymffurfio â rheoliadau trwyddedu sydd wedi'u cynllunio i amddiffyn lles anifeiliaid a phrynwyr fel ei gilydd.