Disgyblion ledled Sir Gâr yn dangos eu sgiliau busnes
7 diwrnod yn ôl
Cafodd disgyblion ysgolion cynradd ledled Sir Gaerfyrddin gyfle i arddangos eu sgiliau busnes a dod yn fasnachwyr marchnad am y diwrnod mewn tri digwyddiad Cystadleuaeth Masnachwyr Iau, a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Rhydaman rhwng 21 a 23 Mai.
Derbyniodd yr ysgolion a gymerodd ran gyllid o £150 i brynu deunyddiau neu gynnyrch i'w gwerthu ar eu stondin ar y farchnad tra bod beirniaid lleol yn sgorio timau ar gyflwyniad stondinau a'r elw a wnaed ar y diwrnod.
Ar draws y tri digwyddiad, cofnododd y rhai a gymerodd ran werthiant o fwy na £6,000. Cafodd y disgyblion ysgol gyfle i ddatblygu eu dysgu mewn sgiliau busnes allweddol fel datblygu cynnyrch a brand, cyllidebu, marchnata, gwerthu a chyflwyno i gwsmeriaid.
Yn Llanelli, enillodd Ysgol Dewi Sant y stondin a gyflwynwyd orau ac Ysgol Pen-y-gaer wnaeth yr elw cyffredinol uchaf o'r hyn a werthwyd.
Yn y digwyddiad yng Nghaerfyrddin, enillodd Ysgol Llangynnwr y stondin orau a nhw hefyd wnaeth yr elw cyffredinol uchaf.
Yn Rhydaman, Ysgol Rhydaman enillodd y stondin a gyflwynwyd orau ac Ysgol y Bedol wnaeth y fwyaf o elw o'r hyn a werthwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Carys Jones, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio:
Mae'r gystadleuaeth hon yn enghraifft wych o sut y gallwn ddod â dysgu yn fyw. Mae ein pobl ifanc wedi dangos creadigrwydd, hyder a chydweithio, sgiliau a fydd o gymorth mawr iddyn nhw yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i'r holl ysgolion, noddwyr, trefnwyr, a theuluoedd a gefnogodd y digwyddiad. Roedd y brwdfrydedd a'r ysbryd entrepreneuraidd a ddangoswyd yn wirioneddol ysbrydoledig."
Trefnwyd y digwyddiadau hyn gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyda chefnogaeth gan Gyngor Tref Llanelli a Phartneriaeth Gymunedol Llanelli, gyda diolch i'r noddwyr canlynol:
Siambr Fasnach Caerfyrddin a Llanelli
Cyngor Tref Rhydaman a Llanelli
Partneriaeth Gymunedol Llanelli
Ymlaen Llanelli
Foothold Cymru